2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 17 Tachwedd 2021.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae buddsoddwyr yn prynu tir amaethyddol ar gyfer plannu coed i'w ddefnyddio fel credydau carbon yn ei chael ar ffermydd teuluol? OQ57184
Diolch. Rydym yn ymwybodol o nifer fach o brosiectau creu coetir ar dir a brynwyd gan fuddsoddwyr. Nid yw'r prosiectau hyn wedi'u plannu, felly nid yw'n bosibl asesu eu heffaith eto. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y pryderon ac rydym am i ffermwyr chwarae rhan ganolog yn y gwaith o greu coetiroedd.
Nifer fach o achosion, meddai'r Gweinidog. Rydyn ni'n clywed pryderon cynyddol am hyn. Rydyn ni wedi clywed am hynny'n gynharach. Nid oes gan ffermwyr na theuluoedd lleol dim gobaith cystadlu. Rydyn ni wedi gweld yn y gorffennol beth sy'n digwydd pan fydd tir yn cael ei golli yn gymdeithasol, yn economaidd, yn ddiwylliannol, yn ieithyddol. Rydyn ni'n meddwl am Epynt a Thryweryn, cynlluniau fforestydd mawr y ganrif ddiwethaf.
Rŵan, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau am hyn yn digwydd ym mhob sir yng Nghymru, ar draws ardal sy'n cyfateb, o bosibl, i 20 fferm deuluol. Mewn ateb i gwestiwn cynharach, mi ddywedodd y Gweinidog ei bod hi hefyd yn rhannu'r pryderon, fel y clywsom ni fanna rŵan, ond ei bod hi wedi gwahodd undebau amaeth i roi mwy o dystiolaeth iddi hi. 'Anecdotaidd ydy llawer o beth rŷn ni'n ei glywed', meddai hi. Mi ofynnodd hi i Aelod arall ddarparu mwy o dystiolaeth bod grantiau Llywodraeth Cymru yn cael eu talu i speculators. Mae'n ddrwg gen i, ond gwaith y Llywodraeth ydy gwneud y gwaith yna o gasglu data a chasglu tystiolaeth. Gwaith y Gweinidog ydy dod o hyd i'r dystiolaeth a mynd at waelod y mater. Felly, a wnaiff hi ymrwymo i drio deall yn union beth sydd yn digwydd, fel bod data cadarn gennym ni ar frys? A wnaiff hi, yn hytrach na dim ond dweud ei bod hi yn bryderus am y peth, wthio am newidiadau i'r system gynllunio i warchod rhag impact cynlluniau plannu coed o'r math yma, ac ystyried ar frys newid y rheolau cymhwyso ar gyfer cynlluniau fel Creu Coetir Glastir, fel mai dim ond rhai sy'n ffermio yng Nghymru sy'n gallu gwneud cais, ac nid speculators sy'n trio manteisio i'r eithaf ar y sefyllfa?
Mae'n ymddangos eich bod yn eithaf beirniadol o fy ateb cynharach am fy nghyfarfodydd â'r undebau ffermio yr wythnos diwethaf. Hwy a ddywedodd wrthyf ei fod yn anecdotaidd, ac fe wnaethant gynnig cyflwyno'r dystiolaeth bellach. Dywedwch fod nifer gynyddol o bryderon, ac rwy'n cytuno—yn sicr ceir canfyddiad ar lawr gwlad. Nawr, nid yw'r cwestiwn ai canfyddiad yn unig ydyw ai peidio yn bwysig, gan fod canfyddiad yn bopeth mewn gwleidyddiaeth.
Mae angen inni wybod y ffeithiau ynglŷn â hyn, ac mae gennym ryw syniad o'r niferoedd, yn amlwg. Fodd bynnag, nid oeddwn yn ymwybodol o'r materion a gyflwynwyd i mi, yn enwedig gan un o'r undebau ffermio, felly rwyf wedi gofyn am dystiolaeth. Nid wyf yn credu bod hynny'n anarferol, er enghraifft. Yr hyn a wyddom yw mai ein ffermwyr yw'r rhan fwyaf o fuddiolwyr ein cynllun Creu Coetir Glastir. Felly, wrth ddatblygu unrhyw gynlluniau yn y dyfodol, rwyf am adolygu sut i sicrhau bod y rhain yn gweithio'n dda i'n ffermwyr yn y ffordd y cyfeiriais ati mewn ateb blaenorol.