Gyrwyr Bysiau Arriva Cymru

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 3:12, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r cwestiwn amserol hwn ar fater mor bwysig? Fel Jack, rwy’n aelod balch o undeb Unite, ac ymunais innau â'r llinell biced ddydd Sul i gefnogi'r gyrwyr, sy’n cyflawni rôl mor bwysig yn ein cymunedau lleol ledled gogledd Cymru. Ni all fod yn deg fod gweithwyr yng Nghymru yn cael llai o dâl a'u gorfodi i weithio oriau hirach na'u cymheiriaid dafliad carreg dros y ffin yn Lloegr, tra bo costau byw yng nghymunedau gogledd-ddwyrain Cymru yn codi. Mae prisiau tai wedi codi cymaint â 40 y cant yno dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Enw’r depo yr ymwelais ag ef oedd Chester depot, ond mae yng Nghymru, yn talu cyflogau Cymreig, a tybed a yw hwn yn bolisi bwriadol i dorri costau? A yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn gwbl annerbyniol i gwmni sy'n derbyn arian cyhoeddus sylweddol ymddwyn mewn ffordd mor anfoesol? Yn y dyfodol, wrth edrych ar ddiwygio, mae arnom angen gwasanaethau bysiau sy'n gweithredu er budd y cyhoedd sy'n teithio, gyda'r holl elw'n cael ei ailfuddsoddi yn y ddarpariaeth o wasanaethau, yn hytrach na model masnachfreinio a fydd yn lleihau cyflogau ac amodau gweithwyr yn enw elw.