Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gychwyn drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23? Hoffwn ddiolch hefyd i Ken Skates, Comisiynydd y Senedd dros y gyllideb a llywodraethu, a swyddogion y Senedd am fynychu'r Pwyllgor Cyllid i drafod eu cynigion. Rydym yn gwerthfawrogi'r modd agored ac adeiladol yr ymatebodd y Comisiynydd a'i swyddogion i'n cwestiynau yn ystod y sesiwn dystiolaeth, ac rydym yn ddiolchgar am y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd ganddynt mor brydlon yn dilyn y cyfarfod hwnnw.