Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Gwnaethom naw o argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas â’i gynigion. Rwyf wedi cael ymateb y Comisiwn i'n hadroddiad, ac rwy'n falch o weld bod wyth o’r argymhellion wedi cael eu derbyn ac un wedi ei dderbyn mewn egwyddor.
Mae cyllideb ddrafft y Comisiwn yn nodi’r hyn mae’n bwriadu ei wario ar gyfer 2022-23 ac mae'n cynnwys cynigion ar gyfer cyllideb o £62.9 miliwn, sef cynnydd cyffredinol o 4.4 y cant o ran gwariant sy'n gysylltiedig â'r Comisiwn ers 2021-22. Mae’r pwyllgor yn cefnogi’r cais cyffredinol hwn, ac mae’n credu y dylai’r Senedd gymeradwyo’r gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud sawl argymhelliad fel cafeat i’r safbwynt hwn.
Fel y mae'r Aelodau'n gwybod, mae'r darlun ariannol presennol yn ansicr ac yn heriol. O ganlyniad i hynny, nid ydym yn credu y dylid trin y Comisiwn yn wahanol i sefydliadau eraill y sector cyhoeddus o ran y cyllid y mae’n ei gael. Yn benodol, rydym yn pryderu bod y gyllideb yn cyfeirio at senarios a allai olygu bod angen cyllidebau atodol i dalu am rai costau, gan gynnwys costau’n ymwneud â chynnydd mewn taliadau yswiriant gwladol a gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar. Roedd y pwyllgor yn gryf o’r farn y dylai'r Comisiwn ariannu pwysau o’r fath ar ei gyllideb trwy wneud arbedion a chymryd camau effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn, yn hytrach na dibynnu ar gyllidebau atodol. Dylai cyllidebau atodol gael eu defnyddio fel opsiwn olaf yn unig.
Roeddem ni hefyd yn bryderus nad yw'r gyllideb yn adlewyrchu nodau a blaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer y chweched Senedd, gan nad yw’r rhain wedi cael eu cytuno eto. Er bod y pwyllgor yn cydnabod mai megis dechrau y mae’r Senedd newydd, a bod angen rhywfaint o ystwythder o ran cynllunio ariannol, hoffem gadw llygad barcud ar oblygiadau cyllidebol yr amcanion hyn, ac rydym yn gofyn i'r Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor unwaith y byddant yn hysbys. Hefyd, hoffem atgoffa’r Comisiwn y dylai gadw at ddatganiad o egwyddorion y pwyllgor ar gyfer yr holl gyrff sy’n cael eu hariannu yn uniongyrchol wrth lunio cyllidebau yn y dyfodol, ac na ddylai gymryd yn ganiataol y bydd y cyllid yn cynyddu o un flwyddyn i'r llall.
Gan droi at faterion penodol, yn amlwg, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar y Senedd, ei staff a’i gwasanaethau. Mae'r pwyllgor yn cydnabod ymroddiad a hyblygrwydd y staff wrth gefnogi'r Senedd yn llwyddiannus trwy gydol y pandemig. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r ffordd y mae’r Comisiwn wedi darparu gwybodaeth yn rheolaidd i’r pwyllgor am gostau ac arbedion sy’n gysylltiedig â COVID, ac mae’n argymell bod y dull hwn yn parhau. Roedd y pwyllgor yn falch o glywed manylion am gynllun carbon niwtral y Comisiwn ar gyfer 2021-30, ac mae'n galw am weithredu’r newidiadau syml a chost-effeithiol sy’n cael eu cynnig yn y strategaeth honno cyn gynted â phosib, er mwyn manteisio’n llawn ar eu buddion.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o brosiect sylweddol i osod ffenestri newydd yn adeilad Tŷ Hywel. Mae cost y prosiect, sef £6 miliwn, yn sylweddol, ac nid yw wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2022-23, er bod y Comisiwn yn nodi y gallai'r gwaith ddigwydd o bosib yn 2023-24 os bydd y gyllideb gysylltiedig yn cael ei hawdurdodi. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod gan y Comisiwn rwymedigaeth i gynnal a chadw’r adeiladau y mae’n eu rhentu i lefel y cytunwyd arni. Fodd bynnag, nid yw’n glir a yw’r Comisiwn yn rhwym o dan gontract i ailosod ffenestri Tŷ Hywel fel rhan o’i gyfrifoldebau prydles. Cyn ystyried unrhyw gynigion cyllidebol yn y dyfodol sy'n ymwneud â'r prosiect hwn, mae'r pwyllgor yn gofyn am ragor o fanylion a sicrwydd gan y Comisiwn cyn y gall fynegi barn ar ba mor fforddiadwy yw’r prosiect.
Yn olaf, roedd y pwyllgor yn croesawu ymagwedd y Comisiwn tuag at ymgysylltu a gwaith allgymorth, yn enwedig ei amcanion o ran cyrraedd cynulleidfaoedd a phobl newydd nad ydynt, yn hanesyddol, wedi ymgysylltu â'r Senedd. Mae’r rhain yn amcanion canmoladwy. Fodd bynnag, i sicrhau bod y gwaith hwn yn parhau i ddarparu gwerth am arian, rydym yn gofyn i’r Comisiwn ddarparu adroddiadau rheolaidd ar ei lwyddiant neu fel arall.