Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Rwyf am ddweud ar y dechrau y byddaf yn cefnogi'r Bil y prynhawn yma gan y credaf fod ganddo'r potensial i weithredu fel catalydd go iawn ar gyfer newid. Mae bwyd yn rhan ganolog o bwy ydym ni—mae'n ganolog yn ein bywyd teuluol, mae'n ganolog i'n hiechyd a'n lles ac mae'n ganolog yn ein cymdeithas. Mae'n arwydd o'n hunaniaeth genedlaethol mewn sawl ffordd, fel y nodwyd eisoes y prynhawn yma. Pan ystyriwn beth yw bod yn Gymry, meddyliwn yn awtomatig am gig oen Cymru neu gig eidion Cymru, cocos neu fara lawr neu un o'r bwydydd eraill—y cawsiau rwy'n eu mwynhau ormod, efallai. Mae'n rhan bwysig o unrhyw gymuned ac unrhyw gymdeithas, a chredaf fod angen i ni yng Nghymru weithio'n galed i sicrhau bod bwyd nid yn unig yn cael lle canolog yn ein cymdeithas, ond yn cael lle canolog o ran pwy ydym ni. Mae angen inni gydnabod maint yr uchelgais, a chredaf fod gan y Bil hwn botensial i'w gyflawni.
Pan lansiais strategaeth fwyd—bron i ddegawd yn ôl bellach, rwy'n credu—roeddem yn cydnabod lle roeddem arni bryd hynny, a'r angen am newid sylfaenol yn y dulliau roeddem wedi'u hetifeddu ar y pryd. Ond pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau yn y Llywodraeth, mae angen herio'r penderfyniadau hynny hefyd, ac nid yw'r strategaeth a lansiais bryd hynny'n strategaeth y byddwn yn ei lansio heddiw. Yr hyn rwy'n ei hoffi am y weledigaeth sydd wrth wraidd y Bil hwn yw'r cyfle i greu rhywbeth fel Origin Green, sydd yn fy marn i wedi chwyldroi cynhyrchiant bwyd yn Iwerddon, lle mae cynaliadwyedd yn ganolog i'r hyn y mae Llywodraeth Iwerddon yn ceisio'i gyflawni, a lle mae'n gweithio i ddod â'r gadwyn gyflenwi a'r rhai ohonom sy'n ddefnyddwyr at ei gilydd. Mae'n dod â chynhyrchu bwyd at ei gilydd, mae'n dod â phrosesu bwyd at ei gilydd, mae'n dod â marchnata bwyd at ei gilydd, mae'n dod â manwerthu bwyd at ei gilydd, ac mae'n dod â'r rheini ohonom sy'n mwynhau'r cynhyrchion hynny a'r cynnyrch hwnnw at ein gilydd. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni allu ei wneud.
Un o'r pleserau mawr rwyf wedi'u cael yn ystod fy amser yma oedd ymuno ag ymgyrchoedd dan arweiniad fy nghyd-Aelodau. Credaf fod y gwaith y mae Jenny Rathbone wedi'i wneud ar gyfiawnder bwyd dros y blynyddoedd wedi arwain y ddadl ar fwyd yn y wlad hon a'i le yn ein cymdeithas. Roeddwn yn cytuno â phob gair a ddywedodd Jenny y prynhawn yma. Mae'r gwaith y mae Huw Irranca-Davies wedi'i wneud yn arwain y rhai ohonom sy'n aelodau o'r Blaid Gydweithredol wedi torri tir newydd unwaith eto drwy ddangos pwysigrwydd bwyd fel rhan o'n dull polisi. Clywais Aelodau'n dweud yn gynharach y dylem roi gwleidyddiaeth ein pleidiau o’r neilltu ar y materion hyn, ond gallwn gyflawni amcanion gwleidyddol ein pleidiau drwy hyn, pob un ohonom yn y Siambr hon, fel mae’n digwydd. Roedd cyfraniad Cefin Campbell yn drawiadol iawn, pan siaradodd am y gwahanol agweddau ar bolisi Plaid Cymru sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig hwn. Wel, gallaf ddweud, fel aelod o'r Blaid Lafur ac fel aelod o'r Blaid Gydweithredol, fy mod yn teimlo pethau tebyg iawn. Gellir cyflawni'r gwaith rydym wedi'i wneud ar gynaliadwyedd, y gwaith y soniodd y Gweinidog Newid Hinsawdd amdano o'r COP dros yr wythnosau diwethaf, yn rhannol drwy rywfaint o'r ddeddfwriaeth hon, a'r catalydd ar gyfer newid y gall fod. Credaf y dylem fod yn gwneud hynny. Credaf y dylem fod yn ceisio herio'r hen ffyrdd o weithio, dylem fod yn dysgu gwersi o rannau eraill o'r byd, dylem fod yn dysgu gan ein cymdogion agosaf dros y dŵr am yr hyn y maent wedi gallu ei wneud, a chymhwyso hynny i'n cyd-destun ein hunain.
Hoffwn ddweud hyn wrth y Llywodraeth: mae'n bwysig fod yr Aelodau'n gallu cyflwyno deddfwriaeth yn y lle hwn, ac nad yw'r Llywodraeth yn ceisio mygu'r ddeddfwriaeth honno pan gynigir y ddeddfwriaeth honno gyntaf. Ers i bwerau deddfu sylfaenol gael eu trosglwyddo i’r lle hwn ddegawd yn ôl, unwaith yn unig y mae deddfwriaeth Aelod preifat wedi cyrraedd y llyfr statud, sef gwaith Kirsty Williams ar Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Roeddwn ar y pwyllgor ar y pryd, dan gadeiryddiaeth fedrus y Dirprwy Lywydd wrth gwrs, a gwelsom sut y gweithiodd y Gweinidog ar y pryd, Mark Drakeford, gyda Kirsty Williams i gyflwyno gwelliannau i'r ddeddfwriaeth er mwyn galluogi'r Llywodraeth i'w chefnogi a'i rhoi ar y llyfr statud. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrth y Llywodraeth heddiw yw bod honno'n wers y mae angen ei chymhwyso.
Os oes unrhyw feirniadaeth i'w gwneud o’r ddeddfwriaeth arfaethedig—ac mae’n ddigon posib y bydd—yr ymrwymiad a roddaf i Peter y prynhawn yma yw y byddaf yn pleidleisio drosti heddiw er mwyn galluogi i graffu ddigwydd. Nid wyf yn ymrwymo mwy na hynny am nad yw'r craffu hwnnw wedi digwydd, ac nid ydym wedi cael cyfle i drafod y ddeddfwriaeth. Mae angen cyfle arnom i’w thrafod, a’r hyn na allwn ei wneud yw trechu’r ddeddfwriaeth cyn cael cyfle i gael y sgwrs honno, i gael y ddadl honno, i gael y drafodaeth honno, ac yna i ffurfio barn ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidogion yn gweithio gyda Peter Fox i edrych ar y ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben.