Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Mae cyfrifoldeb yn greiddiol i'r ddadl hon—ie, safbwynt Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ond yn ddyfnach na hynny, yr rwy'n ei olygu yw'r ymdeimlad sydd wedi bod gyda ni drwy gydol y pandemig fod y camau a gymerwn yn arwain at ganlyniadau nid yn unig i ni ein hunain ond i bawb o'n cwmpas. Rywsut, nid yw'r neges honno wedi gadael ei hargraff ar arweinwyr a Llywodraethau byd-eang. Maent yn parhau i weithredu fel pe na bai'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i'n ffiniau yn cael fawr o effaith ar ein sefyllfa ansicr ein hunain ac yn cau eu llygaid i'r ffaith, os yw'r feirws yn lledaenu yn unrhyw le, na fydd unman yn ddiogel. Ond mae cyfnodau pandemig yn gyfnodau o eithafion ac ni fydd torri corneli'n mynd â chi'n bell iawn.
Mae ein dadl heddiw yn ymwneud â mwy na thegwch mewn perthynas â dosbarthu brechlynnau i wledydd tlotach y byd, mae'n ymwneud â synnwyr cyffredin, oherwydd mewn pandemig byd-eang, bydd y camau y mae pawb ohonom wedi'u cymryd ers 20 mis i gadw ein hunain a theuluoedd a ffrindiau'n ddiogel i gyd yn ofer os bydd y feirws yn parhau i ledaenu mewn gwledydd lle nad oes ymwrthedd wedi datblygu drwy frechlynnau, gan ganiatáu i COVID newid a dod yn fwy marwol byth. Hyd yn oed os edrychwn ar y mater drwy brism hunan-les yn unig, mae'n gwneud synnwyr i ddosbarthu brechlynnau'n deg ar draws y byd, a pheidio â'u pentyrru a blaenoriaethu ein diogelwch ein hunain, oherwydd ni fydd neb yn ddiogel hyd nes y caiff pawb y sicrwydd hwnnw.
Felly, beth sy'n atal hynny rhag digwydd? Yn syml, Ddirprwy Lywydd, trachwant corfforaethol. Mae llywodraethau hemisffer y gogledd yn caniatáu i'r cwmnïau fferyllol mawr sathru ar y ddynoliaeth sy'n ein huno wrth geisio gwneud elw, ac mae'r un anghydraddoldebau a amlygwyd gan y pandemig yn dyfnhau yn hytrach na'u lleihau. Mae Moderna, BioNTech a Pfizer yn gweld elw anferthol i'w cyfranddalwyr oherwydd bod ganddynt fonopolïau ar batentau. Gadewch i ni edrych ar hynny: yr elw y maent yn ei weld, yr amcangyfrifir ei fod mor uchel â 69 y cant, dyna'r elw y maent yn ei wneud o gynnyrch a oedd i fod i achub bywydau pobl. Mae'r elw hwnnw'n fwy am mai hwy yn unig sydd wedi cael caniatâd i gynhyrchu'r brechlynnau. Mae trachwant a rhyfyg wedi sicrhau bod y cwmnïau mawr yn mynd yn gyfoethocach ar draul amlwg tlodion y byd. Fel y nododd Dinah Fuentesfina o ActionAid International:
'Rydym yn creu biliwnyddion brechlyn ond yn methu rhoi brechlyn i biliynau o bobl sydd mewn angen dybryd.'
Y ddeuoliaeth hyll honno yw natur bwystfil cyfalafiaeth ddilyffethair, y grechwen nodweddiadol ar ei wyneb a'r cyfarthiad yn ei frathiad sy'n golygu, er mwyn i'r cyfoethog fynd yn gyfoethocach, fod yn rhaid i'r tlawd ddioddef. Ni fyddai wedi bod yn ddigon i'r cwmnïau hyn gael hawl cyntaf ar rysáit y brechlyn, maent wedi eithrio eraill rhag eu datblygu.
Ac mae Llywodraethau hemisffer y gogledd hefyd wedi ymddwyn yn warthus. Nid archebu'r sypiau cyntaf o frechlynnau'n unig a wnaethom; rydym wedi gorarchebu'n drychinebus. Gallai o leiaf 100 miliwn o frechlynnau gyrraedd pen eu hoes heb eu defnyddio yng ngwledydd y G7 yn 2021. Yn ôl y sôn, mae'r DU yn eistedd ar hyd at 210 miliwn o frechlynnau dros ben, ac mae cais rhyddid gwybodaeth diweddar yn awgrymu bod mwy na 600,000 dos o'r brechlyn wedi'u dinistrio yn y DU ym mis Awst 2021—wedi'u dinistrio. Gobaith biliynau o bobl wedi'i daflu allan fel sbwriel. Mae'n swnio fel moeswers hunllefus ein bod wedi cyrraedd moment yn hanes y ddynoliaeth lle mae gennym allu gwyddonol i greu'r fformiwlâu hyn, ond eu bod wedi'u dal yn ôl gan hunanoldeb a thrachwant. Fe fu alcemyddion yn chwilio am ganrifoedd am fformiwla hud a fyddai'n troi metel sylfaenol yn aur, ond heddiw rydym wedi canfod y gwrthwyneb, a throi serwm bywhaol y brechlynnau yn elifiant neu'n garthion a arllwysir i lawr y draeniau.
Mae Dinah Fuentesfina wedi tynnu sylw hefyd at y ffaith, er bod cannoedd o filiynau o bobl wedi'u heintio gan y feirws a bod mwy na 5 biliwn o bobl—5 miliwn o bobl, maddeuwch i mi—wedi marw,
'mae o leiaf naw biliwnydd newydd wedi'u creu diolch i COVID.'
Ddirprwy Lywydd, mae'r byd wedi torri drwy rwystrau gwyddonol yn y pandemig hwn. Anghydraddoldeb yw'r rhwystr terfynol sy'n bygwth baglu ymdrechion misoedd a miliynau. Rydym yn gwybod beth a ddylai ddigwydd. Dylid ystyried brechlynnau yn nwyddau cyhoeddus byd-eang, nid eu rhoi dan glo a'u storio hyd nes eu bod wedi mynd heibio i'w hoes ddefnyddiol. Dylid dileu hawliau eiddo deallusol, hepgor patentau a rhannu technoleg brechu. Gadewch inni wneud yr hyn sy'n iawn tra bod gennym amser.