Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr heddiw fel ffordd i Gymru a'r Senedd gydnabod ein bod yn rhan o'r gymuned fyd-eang, a bod y gymuned fyd-eang yn wynebu her aruthrol wrth ymdopi â'r pandemig. Nid yw COVID-19 yn cydnabod unrhyw ffiniau rhwng gwledydd. Mae'n brofiad y mae'r byd yn mynd drwyddo ar y cyd ar hyn o bryd yn anffodus, ac mae angen ymateb iddo yn unedig ac ar y cyd. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw. Rydym wedi dangos llawer iawn o gyfrifoldeb ac ymgysylltiad rhyngwladol drwy, er enghraifft, ein rhaglen ar gyfer Affrica, ac mae sawl agwedd ar honno'n gysylltiedig ag iechyd. Rydym wedi darparu clinigau iechyd mewn gwledydd yn Affrica Is-Sahara; rydym wedi cael llawer o gyfnewid rhwng meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Mae wedi bod yn wych gweld hynny'n digwydd, ac rwy'n credu ei fod yn fuddiol iawn i ni ein hunain a'r gwledydd eraill dan sylw.
Yn amlwg, mae'r pandemig yn her bwysig i'r systemau iechyd rydym wedi helpu i'w datblygu a'u cefnogi, a rhan hanfodol o ymdopi â'r pandemig yw'r brechlyn. Gwyddom pa mor bwysig a buddiol y bu'r brechlyn i Gymru a'r DU a gwledydd eraill lle cyflwynir y brechlyn yn effeithiol ac yn helaeth, ond yn anffodus, nid dyna'r sefyllfa mewn llawer o wledydd sydd â systemau iechyd llai datblygedig ac economïau llai cryf a chadarn. Felly, fel rhan o'n rhwymedigaethau rhyngwladol, drwy'r rhaglen ar gyfer Affrica ac fel arall, credaf y dylai Cymru chwarae rhan yn dadlau'r achos a helpu'r gwledydd eraill hynny i gael rhaglenni brechu effeithiol.
Yn fy ardal i, Ddirprwy Lywydd, mae gennym Love Zimbabwe, sefydliad gwych sy'n meithrin cysylltiadau rhwng Cymru a Zimbabwe. Cynhaliwyd ymweliadau yn ystod y pandemig—yr haf diwethaf, er enghraifft. Mae Love Zimbabwe yn dweud wrthyf fod llawer o broblemau'n codi, fel y byddech yn ei ddisgwyl, wrth fynd ati i ymdrin yn effeithiol â'r pandemig yn Zimbabwe. Mae profion llif unffordd, er enghraifft, yn costio tua £25 i'w cynnal, ac mae'n amlwg nad yw llawer o bobl yn gallu fforddio hynny, sy'n ei gwneud yn anodd asesu nifer yr achosion a graddau COVID-19 yn y wlad honno, gan greu problemau mawr wrth i'r system iechyd gynllunio ymateb digonol. Hefyd, er bod brechu'n digwydd, nid yw'r mwyafrif llethol o'r boblogaeth o 15 miliwn wedi'u brechu, a'r brechlyn a ddefnyddir yw'r un Tsieineaidd, nad yw'n cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU. Felly, mae hynny'n creu problemau, oherwydd, er nad yw Zimbabwe bellach ar y rhestr goch o wledydd Llywodraeth y DU mewn perthynas â COVID, mae'r ffaith bod y brechlyn Tsieineaidd hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn golygu bod problemau gyda chwarantin a phrofion cyn gadael ar gyfer teithio o Zimbabwe i'r DU. Mae hynny'n creu llawer o oblygiadau i boblogaeth Zimbabwe ac wrth gwrs, i'r ffordd yr ymgysylltwn â hwy drwy Love Zimbabwe a grwpiau a sefydliadau eraill.
Felly, rwy'n falch iawn fod y ddadl hon yn digwydd heddiw fel y gallwn gydnabod a deall y materion hyn. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn cryfhau ein llais yn awr yn yr ymgyrch i sicrhau bod brechu'n digwydd yn effeithiol mewn gwledydd ledled y byd, ac y byddwn yn gwneud yr hyn a allwn yn fwy uniongyrchol mewn perthynas â'n rhaglen ar gyfer Affrica, a'n hymdrechion eraill, i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldeb fel rhan o'r byd ffyniannus a sefydlog hwnnw, a deall pa mor ffodus rydym i fod yn y sefyllfa honno yma yng Nghymru.