10. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21 ac ail adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:17, 23 Tachwedd 2021

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw? Ac mae'n amlwg wrth glywed geiriau brwdfrydig o bob rhan o'r Siambr fod cyfleoedd gyda ni i gyd yma yn y Siambr i gydweithio tu hwnt i'r cytundeb cydweithredol sydd rhyngom ni fel Llywodraeth a Phlaid Cymru, ond gyda phob rhan o'r Siambr i sicrhau ffyniant yr iaith, a sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni fel Llywodraeth, a hefyd y cyrff eraill rŷm ni'n gweithio gyda nhw fel partneriaid, i sicrhau ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, ac, wrth gwrs, y nod bwysig arall honno o ddyblu defnydd o'r Gymraeg dros yr un cyfnod. Ac rwy'n sicr bod Aelodau wedi clywed y pwyslais rwyf wedi dodi yn yr araith agoriadol ar ddefnydd fel lens polisi i fi fel Gweinidog y Gymraeg.

Fe wnaeth Sam Kurtz a Cefin Campbell ill dau godi'r cwestiwn pwysig iawn: 'Ydych chi'n sicr eich bod chi'n gwneud popeth sydd ei angen ar hyn o bryd? Ydych chi'n dal yn gwneud digon o gynnydd tuag at filiwn o siaradwyr a'r nod pwysig hwnnw o ran polisi Llywodraeth Cymru?' Wel, bydd y cyfle cyntaf i ni werthuso hynny o ran data yn cyrraedd y flwyddyn nesaf gyda'r cyfrifiad, a bydd angen i ni gyd edrych ar y canlyniadau pwysig hynny. Mae amryw o arolygon yn y cyfamser wedi dangos cynnydd, ond ar sail y rhifau hynny rŷm ni'n disgwyl cael ein mesur. Felly, bydd cyfle i ni gyd edrych ar y cyd ar hyn o ran y cynnydd sydd wedi bod y flwyddyn nesaf, a bydd cyfle i ni bryd hynny i edrych eto ar y rhaglen waith wnes i ei chyhoeddi yn ystod tymor yr haf. Ac mae'r rhaglen waith honno yn disgrifio'r camau rŷm ni'n bwriadu cymryd fel Llywodraeth, ar ôl i fi ddod mewn i'r rôl ym mis Mai, dros y pum mlynedd nesaf, i sicrhau ein bod ni ar y trac i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

O ran a ydy'r rhaglen waith honno yn ddigonol, does dim dadansoddiad yn adroddiad y comisiynydd o'r rhaglen waith. Fe fyddwn i yn gwerthfawrogi ac yn croesawu asesiad o'r cyfraniad hwnnw. Mae amryw o'r pwyntiau mae'r comisiynydd yn eu codi yn yr adroddiad yn cael eu hateb yn y rhaglen waith honno, felly byddwn i yn croesawu dadansoddiad pellach o'r hyn rŷm ni eisoes wedi ei gyhoeddi yn ystod tymor yr haf.

O ran y pwyntiau ehangach a wnaeth Sam Kurtz, 'A ydym ni'n gwneud popeth gallwn ni?' Rwyf jest eisiau pwysleisio bod y ffocws ar ddefnydd, rwy'n credu, yn un pwysig iawn oherwydd mae'n gyrru pob ymyrraeth arall gallwn ni ei gwneud fel Llywodraeth, o ran ariannu, o ran cydweithio â phartneriaid. Mae popeth rŷm ni'n ei wneud, o ran rheoleiddio, o ran annog a hybu, yn rhan bwysig o'r darlun cyflawn, ond mae'n rhaid sicrhau bod hynny yn arwain at fwy o ddefnydd dyddiol yn ein cymunedau ni, yn ein gweithleoedd ni, ac o fewn ein teuluoedd ni. Rwy'n credu bod y ffocws hynny yn un pwysig dros y cyfnod nesaf er mwyn sicrhau cynnydd.

Fe wnaeth Sam Kurtz sôn am ganfyddiad y cyhoedd bod y safonau a chyfreithiau eraill yn cynyddu mynediad at wasanaethau Cymraeg, ac mae hynny, wrth gwrs, yn beth i'w groesawu. Y cyfle nawr yw i symud tu hwnt i ganfyddiad a gallu cael casgliad, efallai, sicrach ar sail data a dadansoddiad o hynny. Does dim data newydd yn yr adroddiad rŷm ni'n ei drafod heddiw, a hoffwn i hefyd ddeall yn well y rhifau o bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau. Mae'r pwynt a wnaeth Cefin Campbell yn bwysig iawn yn hyn o beth, hynny yw, yr hyder a'r gallu i wneud hynny, ond mae'n rhaid i ni gael gwell dealltwriaeth na sydd gyda ni o'r rhifau o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau yma. Mae'r adroddiad ei hun yn dweud bod hynny'n llai na'r rhifau o bobl sydd yn medru'r Gymraeg, ac rwy'n falch ein bod ni'n gallu cydweithio â'r comisiynydd ar ddeall y darlun hwnnw yn gyflawnach, a'r pwynt pwysig a wnaeth Cefin Campbell yn ei gyfraniad e o ddeall y rhwystrau sydd yn golygu nad yw pobl yn mynnu'r gwasanaethau yn y Gymraeg, neu fod sefydliadau ddim yn gallu eu darparu nhw fel y byddem ni'n disgwyl yn y Gymraeg. Mae dealltwriaeth o'r pethau sydd yn rhwystro hynny yn gwbl greiddiol, rwy'n credu, i'r broses o sicrhau bod y safonau yn gwneud y gwaith rŷm ni eisiau iddyn nhw ei wneud.

Fe wnaeth Cefin Campbell ofyn pwynt penodol ar y rhwystrau o ran y broses o osod safonau. Rwy'n credu mai dyna oedd pwynt y cwestiwn. Mae'r broses o'u gosod nhw, fel mae e wedi esblygu, ddim yn tueddu tuag at broses syml. Hynny yw, mae camau mae'r comisiynydd yn eu gwneud, mae camau pellach mae'n rhaid inni eu gwneud fel Llywodraeth, ac mae'r cyrff sydd yn disgwyl bod yn ddarostyngedig i'r safonau wedyn mewn proses gynyddol a pharhaol o ymgynghori a chyfrannu. Felly, dwi ddim yn credu mai dyna'r ffordd orau o wneud hyn. Rŷm ni wedi cael trafodaeth ac yn dal i gael trafodaeth gyda'r comisiynydd—trafodaeth adeiladol—am sut allwn ni sicrhau bod y broses honno yn symlach, fel ein bod ni'n gallu gosod safonau sy'n gwneud eu pwrpas yn haws yn y dyfodol, ac, wrth gwrs, mae hynny yn rhan o'r cytundeb sydd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ynghyd â'r cwestiynau wnaeth Cefin Campbell sôn am safonau ar drafnidiaeth, ar gwmnïau dŵr, ar reoleiddwyr iechyd a chymdeithasau tai. Rwy'n disgwyl ymlaen at y cyfle i drafod hynny ymhellach ag e.

Ond gaf i ddiolch i'r comisiynydd am ei waith? Gaf i ddiolch i'r holl sefydliadau a mudiadau ac ymgyrchwyr eraill sy'n gwneud cyfraniad mor bwysig i ffyniant y Gymraeg ac yn ein helpu ni i gyd ar y nod rŷm ni i gyd yn ei rannu o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu defnydd pob dydd?