– Senedd Cymru am 5:56 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf heddiw yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21, ac ail adroddiad pum mlynedd y comisiynydd. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig. Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ni yma yn y Senedd, yn y Llywodraeth ac, yn bwysicach, bobman arall yng Nghymru. Dyna dwi wedi'i bwysleisio ers cael fy mhenodi'n Weinidog dros ein hiaith ni, a dyna dwi'n ei bwysleisio heddiw. Faint bynnag o Gymraeg rŷn ni'n ei siarad a beth bynnag mae ein cyswllt â'r iaith wedi bod, mae gyda ni i gyd gyfraniad i'w wneud iddi. Mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i mi. Dwi'n ddiolchgar i'm rhieni am ei rhoi hi i mi, ac mae medru dwy iaith yn rhoi dwy ffenestr inni edrych ar y byd. Felly, cyn mynd ymlaen at graidd y drafodaeth, dyma jest osod fy ngweledigaeth i yn gryno ar gyfer ein hiaith ni, a sut y byddaf i'n gweld fy ngwaith i fel Gweinidog y Gymraeg.
Dwi am i fwy gael beth ges i. Dwi eisiau i fwy o bobl ddysgu'n hiaith. Dwi am fyw hynny o fy mywyd a allaf i drwy'r Gymraeg. Rydych chi efallai'n meddwl bod dim byd newydd yn fanna, ond ydyn ni yn y pentref polisi Cymraeg yn canolbwyntio digon ar ddefnydd iaith? Ydyn ni'n osgoi hynny efallai am ei fod ef bach yn anodd weithiau? Dwi am i fwy o bobl ddefnyddio'n hiaith ni, nid jest gallu ei siarad hi. Felly, defnydd yw'r allwedd i mi, a drwy brism defnydd dwi'n gweld fy ngwaith fel Gweinidog—defnydd nid jest darparu.
Nôl ym mis Gorffennaf, fe wnes i gyhoeddi cynllun gwaith pum mlynedd 'Cymraeg 2050' er mwyn gwneud yn siŵr bod y weledigaeth honno'n dod yn fyw. Edrych ymlaen at bum mlynedd nesaf polisi iaith rôn i bryd hwnnw, ac mae cynlluniau reit gyffrous gyda ni ar y gweill, a mwy am y rheini dros y misoedd sy'n dod. Ond o dro i dro mae'n bwysig edrych nôl, a dyna rŷn ni'n ei wneud heddiw, ac rŷn ni'n gwneud hynny dros y flwyddyn ddiwethaf a dros y pum mlynedd diwethaf drwy lygaid Comisiynydd y Gymraeg.
Dyw'r cyfnod diweddar ddim wedi bod yn un hawdd i'r comisiynydd. Fel pob un ohonom ni, roedd yn rhaid i'r comisiynydd addasu i ddulliau newydd o weithio oherwydd COVID. Ond ar ben hynny, fe ddioddefodd y comisiynydd ymosodiad seiber anffodus iawn, ac mae'r gwaith adfer yn dilyn hwnnw wedi bod yn sylweddol. Rŷn ni'n parhau i weithio gyda'r comisiynydd i'w helpu gyda'r gwaith o adfer ei systemau yn dilyn yr ymosodiad yna.
Ym mis Hydref, fe gyhoeddodd y comisiynydd ei adroddiad pum mlynedd. Diben yr adroddiad yw rhoi trosolwg annibynnol inni o sefyllfa'n hiaith, rhywbeth sy'n hollbwysig wrth inni weithio tuag at y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg.
Yn ei adroddiad pum mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r comisiynydd yn ffocysu ar waith y Llywodraeth ac yn gosod sawl her inni. A dwi wastad yn croesawu heriau deallus ym mhob agwedd ar fy ngwaith. Does gan neb fonopoli ar syniadau da, a gaf i gymryd y cyfle i ddiolch i'r holl gyrff ac ymgyrchwyr eraill sydd wedi bod yn gweithio dros y Gymraeg yn y cyfnod o dan ystyriaeth yn yr adroddiad?
Mae themâu tebyg yn amlwg yn y ddau adroddiad rŷn ni'n eu trafod heddiw, yr adroddiad blynyddol a'r adroddiad pum mlynedd. Yn un peth, mae'r comisiynydd yn gofyn inni ddod â mwy o gyrff a sectorau o dan drefn safonau'r Gymraeg. Dwi am fod yn glir ac yn groyw am y safonau: rwy'n cefnogi'r drefn safonau ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Phlaid Cymru ar sail ein cytundeb cydweithredu ar hyn. Fel y comisiynydd, rwy'n falch bod gyda ni bellach fwy o hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cyhoeddus, a dwi hefyd eisiau gwybod beth yn union yw effaith y safonau yna ar ddefnydd dydd i ddydd ein hiaith ni.
Os nad yw e'n hollol amlwg hyd yn hyn, dwi'n benderfynol o ystyried popeth rwy'n ei wneud fel Gweinidog y Gymraeg, drwy ba sianel bynnag, drwy lens defnydd y Gymraeg. Felly, dwi wedi gofyn i'r comisiynydd wneud darn o waith yn ystyried hyn. Dwi wedi gwneud hyn oherwydd fy mod i'n awyddus i ddeall sut mae'r safonau sydd eisoes wedi eu gosod yn helpu siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio mwy o Gymraeg ac am y rhwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio gwasanaethau Cymraeg. Yn ei adroddiad pum mlynedd, mae'r comisiynydd ei hun yn cydnabod nad yw nifer y bobl sy'n dewis defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn cyfateb i'r nifer sy'n gallu siarad Cymraeg, felly mae'n rhaid inni edrych i mewn i hynny.
Mae'n rhaid inni ddeall mwy hefyd am y rhwystrau mae sefydliadau yn dod wyneb yn wyneb â nhw wrth iddyn nhw roi cynnig ar ddarparu gwasanaethau Cymraeg, a deall pwy sydd yn y lle gorau i'w helpu a sut mae'r help yna'n edrych. Bydd casgliadau'r gwaith yna yn cyfoethogi dylanwad y safonau y byddwn ni'n eu paratoi yn y dyfodol, gyda'r bwriad eu bod nhw'n cynyddu faint o Gymraeg rŷn ni'n ei defnyddio o ddydd i ddydd.
Mae'r comisiynydd hefyd yn rhannu ein pryderon ni am effeithiau COVID ar y Gymraeg. Trwy gydol y pandemig, rŷn ni wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth a thu hwnt er mwyn ymateb i sefyllfa a oedd yn newid yn gyflym. Rŷn ni wedi cyhoeddi ymateb reit sylweddol i'r awdit wnaethom ni ar effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg. Rŷn ni eisoes wedi dechrau gweithredu. Hefyd, mae rhai llwyddiannau wedi dod yn ystod y cyfnod anodd yma. Rydym ni wedi gweld diddordeb fel rydym ni erioed wedi ei weld mewn dysgu Cymraeg, er enghraifft, gyda lot o gyrsiau rhithiol newydd.
Mae fy mlaenoriaethau i dros y Gymraeg yn glir. Dwi am weld mwy o bobl yn defnyddio pa Gymraeg bynnag sydd gyda nhw bob dydd, yn eu cartrefi, yn eu cymunedau a'u gweithleoedd. Mae angen inni ddysgu gwersi o beth sy'n gweithio a beth sydd ddim, ac mae angen inni fod yn ddigon dewr i newid siẁd rŷn ni'n gwneud pethau os nad ŷn nhw'n gweithio. Mae angen inni flaenoriaethu, a gallai hynny olygu stopio gwneud rhai pethau er mwyn gwneud pethau mwy pellgyrhaeddol. Ac mae angen inni i gyd, yn Llywodraeth, yn gomisiynydd ac yn bartneriaid oll, sylweddoli bod y byd wedi newid ac, oherwydd y newidiadau hyn, mae'n amlwg bod angen inni hefyd newid y ffordd rŷn ni'n gweithio ac esblygu hynny.
Hoffwn i groesawu'r ddadl heddiw ar y ddau adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg, a hoffwn ddatgan buddiant. Dyma'r cyfle cyntaf i mi wneud sylwadau ar waith y comisiynydd a hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith caled y mae ef a'i dîm wedi'i wneud i gyflawni eu rolau, nid yn unig dros y 18 mis diwethaf, ond cyn hynny hefyd. Fel rydw i a llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi dweud, a chi hefyd, Weinidog, mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb, o bob cefndir. Mae'r gwaith y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ei wneud yn helpu nid yn unig i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, ond i ddiogelu a chynyddu’r defnydd hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gan edrych ar yr adroddiad pum mlynedd, rwy'n nodi pryder y comisiynydd:
'Er i'r uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr gael ei chroesawu’n fawr adeg ei chyhoeddi yn 2017, mae peth amheuaeth ynghylch a yw'r ymdrechion hyd yma'n ddigonol i'w gwireddu.'
O gofio mai dim ond ers mis Mai yr ydych chi wedi bod yn Weinidog dros y Gymraeg, mae gennyf ddiddordeb mewn clywed a ydyn ni'n dal i fod ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed hwn erbyn 2050 a pha gamau yr ydych chi wedi eu cymryd i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targed.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod yna ganfyddiad ymhlith siaradwyr Cymraeg fod gwasanaethau Cymraeg yn gwella i lefel lle maent yn hapus i drafod eu busnes gyda sefydliadau cyhoeddus yn y Gymraeg. Ond, rwy'n rhannu pryder y comisiynwyr am y diffyg data i fesur faint mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus, ac mae'n broblemus nad os unrhyw ofyniad i'r sefydliadau sy'n cael eu llywodraethu gan safonau'r Gymraeg fonitro'r defnydd o'r iaith. Beth yw eich cynlluniau, Weinidog, i fynd i'r afael â'r galwadau hyn?
Mae'r adroddiad yn cyffwrdd â'r angen i fusnesau ac i elusennau hyrwyddo'r ffaith eu bod yn cynnig opsiwn cyfrwng Cymraeg. Wrth beidio â hyrwyddo hyn, nid yw llawer o siaradwyr Cymraeg yn mynd i ofyn am y gwasanaeth, ac i ofyn a yw'r gwasanaeth ar gael, ac ni fyddant wedyn yn trafod eu busnes yn Gymraeg. Weinidog, hoffwn glywed mwy am ba rôl y gall eich Llywodraeth chi chwarae wrth helpu i ddangos y gellir cynnig gwasanaethau yn ddwyieithog.
Yn ystod y ddadl hon y llynedd, tynnodd Suzy Davies sylw at y cwymp yn y galw am Gymraeg Safon Uwch, a allai effeithio ar gynlluniau i recriwtio a hyfforddi mwy o athrawon sydd â sgiliau Cymraeg. Mae'r her o ran recriwtio athrawon, yn enwedig ar lefel uwchradd, yn fater dwi wedi'i godi gyda chi o'r blaen yn y Siambr. Hoffwn glywed pa gynnydd sydd wedi ei wneud yn y maes hyn.
Yn olaf, Weinidog, a gaf i ofyn am gynlluniau yn y dyfodol yn dilyn ymlaen o gynllun Arfor, a redodd rhwng 2016 a 2020, gan wario £2 filiwn ar draws pedair sir Gymraeg, yn naturiol, yn bennaf i greu mwy o swyddi a gwell swyddi i gefnogi'r iaith? Mae'r comisiynydd yn nodi mai prin yw'r dystiolaeth ar hyn o bryd o lwyddiant y prosiect, ac mae'n bosibl nad yw chwistrelliad untro o arian heb fod iddo ddiben penodol iawn yn ddigon i greu sail tystiolaeth ynghylch y cysylltiad rhwng gwaith ac iaith. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r feirniadaeth hon, a pha newidiadau y gellir eu gwneud i gynlluniau yn y dyfodol i sicrhau eu bod yn cyflawni eu nodau yn llawnach?
Weinidog, mae'r adroddiadau gan y comisiynydd yn gefnogol, ond maent yn gosod her i'ch Llywodraeth i ddangos bod ganddi syniadau newydd i'w helpu i gyflawni ei hymrwymiadau a'i nodau. Byddaf yn hapus i gefnogi eich ymdrechion i annog mwy o bobl i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg, ond rwy'n aros am ymatebion i rai o bryderon y comisiynydd yr wyf wedi eu hamlygu heddiw i sicrhau bod dyfodol y Gymraeg yn ddiogel am genedlaethau i ddod. Diolch.
Dwi'n falch iawn o allu cyfrannu i'r ddadl yma heddiw, ond, cyn symud ymlaen, dwi am ddiolch o galon i'r comisiynydd am ei waith a'i ymrwymiad diflino i'r Gymraeg.
Mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn yn barod am fanteision bod yn ddwyieithog, ac rydw innau hefyd yn hynod o falch bod gen i ddwy iaith, oherwydd dwy iaith, dwywaith y dewis, ac, mewn gwirionedd, dwi am annog pawb yng Nghymru—plant, rhieni, pobl sydd yn oedolion—sydd am ddysgu'r iaith i fanteisio ar y cyfle i fod yn ddwyieithog.
Mae gan ddwyieithrwydd, wrth gwrs, nifer fawr o fanteision amlwg—yn fanteision cymdeithasol, economaidd, gwybyddol, ac yn y blaen—ac mae'r defnydd o'r iaith yn rhywbeth cymhleth dros ben, a dwi wedi cyfeirio'n barod at yr hyder sydd yn dod o ddefnyddio'r iaith yn gyson. Nawr, mae diffyg hyder, wrth gwrs, weithiau yn adlewyrchu ei hun yn y dewis, efallai, o Saesneg wrth ymwneud person â chyrff cyhoeddus. Mae diffyg hyder yn aml iawn deillio yn ôl i ddiffyg sgiliau yn y Gymraeg, felly mae'n rhaid i ni edrych arno fe fel cylch, mewn gwirionedd: diffyg sgiliau, diffyg hyder, diffyg defnydd. Felly, yn hytrach na bod yn feirniadol o'r diffyg ymwneud yna, mae'n rhaid i ni edrych i weld beth mae'r cyrff cyhoeddus yn ei wneud i'w gwneud hi'n rhwyddach i bobl ddefnyddio'r Gymraeg gyda nhw, a dwi'n croesawu'r ymchwil sydd yn mynd i gael ei wneud i hynny, achos mae angen i'r gwasanaeth dwyieithog yna fod yn un diofyn a dilestair, mewn gwirionedd, fel bod pobl yn gwneud y defnydd gorau o'r cyfleoedd. Beth sydd yn wych yn y Siambr yma yw bod yna bobl sydd wedi dysgu'r Gymraeg yn cymryd y cyfle hefyd i ddefnyddio'r iaith, ac mae hynny'n beth gwych iawn, iawn.
Mae adroddiad y comisiynydd yn nodi ystod eang o heriau sydd wedi wynebu'r Gymraeg dros y flwyddyn neu'r blynyddoedd diwethaf, o Brexit a'r pandemig i ganslo'r digwyddiadau cymdeithasol sydd wedi bod mor bwysig i bobl i ddod at ei gilydd i ddefnyddio'r iaith ym mhob rhan o Gymru, a chau ysgolion, a hefyd y mater o ail gartrefi rŷn ni wedi'i drafod yn barod y prynhawn yma, a'r diffyg gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael yn y Gymraeg.
Ond rwyf am dynnu sylw at un mater sydd yn peri pryder mawr i fi. Mae'r adroddiad yma yn adroddiad pum mlynedd, ac yn nodi mai un o amcanion craidd y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg yw cynyddu capasiti a sgiliau'r gweithlu cyfrwng Cymraeg. Nawr, yn anffodus, rŷn ni wedi gweld gostyngiad yn hyn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r data yma yn peri gofid penodol. Bu cwymp trawiadol yn y pum mlynedd diwethaf yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso sy'n gallu siarad Cymraeg, neu sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gostyngiad o 23 y cant yn y nifer sy'n gallu siarad Cymraeg a 27 y cant sy'n gallu gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Nawr, mae hyn lawer yn fwy na'r 8 y cant o ostyngiad yng nghyfanswm yr athrawon newydd gymhwyso. Mae hyn, wrth gwrs, yn fater o bryder mawr, ac mae'n amlwg bod siaradwyr Cymraeg ifanc yn gweld gyrfa arall y tu fas i'r sector addysg, yn anffodus. Felly, hoffwn i ofyn i chi beth yn union yw'ch cynlluniau chi i fynd i'r afael â hyn er mwyn sicrhau gweithlu digonol i gyflawni amcanion strategaeth 2050?
Os caf i droi yn sydyn cyn cloi at safonau iaith, dwi am ofyn i chi beth yw'r rhwystrau rhag gweithredu mwy o safonau iaith yn y sectorau hynny lle nad yw'r safonau'n bodoli'n barod, sectorau fel trafnidiaeth gyhoeddus, rheoleiddwyr yn y sector iechyd, a nifer o gyrff cyhoeddus eraill, cwmnïau dŵr a chymdeithasau tai yn benodol. Felly, sut ŷn ni'n eu tynnu nhw i mewn i'r cylch o safonau iaith?
Rwyf am orffen, Dirprwy Lywydd, gyda hyn: fe wnaeth Sam gyfeirio at y ffaith bod y comisiynydd wedi dyfynnu pryder, a dwi'n dyfynnu peth amheuaeth ganddo fe, ynghylch a yw'r ymdrechion hyd yma yn ddigonol i wireddu amcanion strategaeth 2050? Ydych chi'n cytuno ag asesiad y comisiynydd o sefyllfa'r Gymraeg? Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn i ddiolch i Gomisiynydd y Gymraeg a'i staff am eu gwaith parhaus. I'r rhai hynny sy'n ddibynnol ar y sector gofal, nid yw siarad Cymraeg yn fater o ddewis, mae'n anghenraid. Ar hyn o bryd rwy'n ymdrin ag etholwr y mae ei fam, sy'n dioddef o ddementia, wedi colli'r gallu i siarad yn Saesneg. Cwympodd yn ddiweddar a chafodd ei gorfodi i aros bron i bum awr am gymorth, sefyllfa wael ynddi ei hun, ond un a wnaed gymaint yn waeth gan nad oedd hi'n gallu cyfathrebu â staff yr ambiwlans. Treulio oriau mewn poen, wedi ofni ac yn gwbl ynysig, a'r cyfan oherwydd nad yw'r staff yn siarad eich iaith. Mae'r gallu i gyfathrebu yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei gymryd yn ganiataol. Mae'n rhaid ei bod yn frawychus pan nad yw pobl yn eich deall chi a hynny ar adeg o angen mawr. Yn anffodus, nid fy etholwr i yn unig a oedd yn wynebu'r profiad hwn. Yn anffodus, mae prinder staff sy'n siarad Cymraeg ym maes iechyd a gofal yn arwain at sefyllfa fel hon yn llawer rhy aml. Mae'r comisiynydd yn tynnu sylw at y ffaith bod cynnydd yn cael ei wneud i godi nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n mynd i ofal iechyd drwy gynlluniau fel Meddygon Yfory. Yn ôl adroddiad y comisiynydd, mae Meddygon Yfory, menter ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r ysgolion meddygol yng Nghaerdydd ac Abertawe, wedi gweld y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn dechrau eu hyfforddiant meddygol. Fodd bynnag, un peth yw hyfforddi meddygon Cymraeg yfory; peth arall yw eu hargyhoeddi i aros ac ymarfer yng Nghymru.
Ac er ein bod yn gwneud cynnydd, er yn araf, wrth recriwtio meddygon sy'n siarad Cymraeg, mae gennym ni broblem fwy byth ym maes gofal cymdeithasol. Ym maes gofal cymdeithasol, mae llai na 13 y cant o staff ledled Cymru yn siaradwyr Cymraeg. Rydym yn ei chael yn anodd recriwtio digon o staff i ddiwallu anghenion gofal Cymru heddiw, heb sôn am yfory. Er mwyn ymateb i'r heriau, mae gweiddi mawr i recriwtio staff o dramor. Er y gallai'r trefniadau tymor byr hyn leddfu'r argyfwng recriwtio, bydd hefyd yn lleihau nifer y staff gofal sy'n siarad Cymraeg. Rydym yn gwybod bod llawer o staff gofal cymdeithasol yn nesáu at oedran ymddeol yn ystod y degawd nesaf. Os nad ydym yn recriwtio staff Cymraeg eu hiaith sy'n hanu o Gymru i gymryd eu lle, yna rydym yn dwysáu'r broblem. Mae pobl fel fy etholwyr i yn dibynnu arnom ni i sicrhau bod y staff sy'n gofalu amdanyn nhw yn gallu cyfathrebu'n dda â nhw, ac mae anallu i siarad Cymraeg yn rhwystr i ofal, ac yn un y mae'n rhaid i ni ei oresgyn ar frys.
Diolch i Gomisiynydd y Gymraeg am ei waith parhaus i wella'r sefyllfa, ond mae'r cynnydd yn llawer rhy araf. Nid yn unig y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i wneud gofal cymdeithasol yn yrfa ddeniadol gyda chyflog ac amodau mwy na digonol, mae'n rhaid iddyn nhw hefyd gymell siaradwyr Cymraeg i ymgymryd â phroffesiwn gofalu, yn ogystal â'i gwneud yn haws i staff presennol feithrin sgiliau Cymraeg. Mae angen ar ein hetholwyr i ni weithredu. Faint yn rhagor o bobl yn dioddef o ddementia fydd yn cael eu gadael yn ynysig ac ar eu pennau eu hunain, wedi drysu ac ag ofn, oherwydd bod staff yn methu â chyfathrebu â nhw yn eu mamiaith? Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw? Ac mae'n amlwg wrth glywed geiriau brwdfrydig o bob rhan o'r Siambr fod cyfleoedd gyda ni i gyd yma yn y Siambr i gydweithio tu hwnt i'r cytundeb cydweithredol sydd rhyngom ni fel Llywodraeth a Phlaid Cymru, ond gyda phob rhan o'r Siambr i sicrhau ffyniant yr iaith, a sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni fel Llywodraeth, a hefyd y cyrff eraill rŷm ni'n gweithio gyda nhw fel partneriaid, i sicrhau ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, ac, wrth gwrs, y nod bwysig arall honno o ddyblu defnydd o'r Gymraeg dros yr un cyfnod. Ac rwy'n sicr bod Aelodau wedi clywed y pwyslais rwyf wedi dodi yn yr araith agoriadol ar ddefnydd fel lens polisi i fi fel Gweinidog y Gymraeg.
Fe wnaeth Sam Kurtz a Cefin Campbell ill dau godi'r cwestiwn pwysig iawn: 'Ydych chi'n sicr eich bod chi'n gwneud popeth sydd ei angen ar hyn o bryd? Ydych chi'n dal yn gwneud digon o gynnydd tuag at filiwn o siaradwyr a'r nod pwysig hwnnw o ran polisi Llywodraeth Cymru?' Wel, bydd y cyfle cyntaf i ni werthuso hynny o ran data yn cyrraedd y flwyddyn nesaf gyda'r cyfrifiad, a bydd angen i ni gyd edrych ar y canlyniadau pwysig hynny. Mae amryw o arolygon yn y cyfamser wedi dangos cynnydd, ond ar sail y rhifau hynny rŷm ni'n disgwyl cael ein mesur. Felly, bydd cyfle i ni gyd edrych ar y cyd ar hyn o ran y cynnydd sydd wedi bod y flwyddyn nesaf, a bydd cyfle i ni bryd hynny i edrych eto ar y rhaglen waith wnes i ei chyhoeddi yn ystod tymor yr haf. Ac mae'r rhaglen waith honno yn disgrifio'r camau rŷm ni'n bwriadu cymryd fel Llywodraeth, ar ôl i fi ddod mewn i'r rôl ym mis Mai, dros y pum mlynedd nesaf, i sicrhau ein bod ni ar y trac i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
O ran a ydy'r rhaglen waith honno yn ddigonol, does dim dadansoddiad yn adroddiad y comisiynydd o'r rhaglen waith. Fe fyddwn i yn gwerthfawrogi ac yn croesawu asesiad o'r cyfraniad hwnnw. Mae amryw o'r pwyntiau mae'r comisiynydd yn eu codi yn yr adroddiad yn cael eu hateb yn y rhaglen waith honno, felly byddwn i yn croesawu dadansoddiad pellach o'r hyn rŷm ni eisoes wedi ei gyhoeddi yn ystod tymor yr haf.
O ran y pwyntiau ehangach a wnaeth Sam Kurtz, 'A ydym ni'n gwneud popeth gallwn ni?' Rwyf jest eisiau pwysleisio bod y ffocws ar ddefnydd, rwy'n credu, yn un pwysig iawn oherwydd mae'n gyrru pob ymyrraeth arall gallwn ni ei gwneud fel Llywodraeth, o ran ariannu, o ran cydweithio â phartneriaid. Mae popeth rŷm ni'n ei wneud, o ran rheoleiddio, o ran annog a hybu, yn rhan bwysig o'r darlun cyflawn, ond mae'n rhaid sicrhau bod hynny yn arwain at fwy o ddefnydd dyddiol yn ein cymunedau ni, yn ein gweithleoedd ni, ac o fewn ein teuluoedd ni. Rwy'n credu bod y ffocws hynny yn un pwysig dros y cyfnod nesaf er mwyn sicrhau cynnydd.
Fe wnaeth Sam Kurtz sôn am ganfyddiad y cyhoedd bod y safonau a chyfreithiau eraill yn cynyddu mynediad at wasanaethau Cymraeg, ac mae hynny, wrth gwrs, yn beth i'w groesawu. Y cyfle nawr yw i symud tu hwnt i ganfyddiad a gallu cael casgliad, efallai, sicrach ar sail data a dadansoddiad o hynny. Does dim data newydd yn yr adroddiad rŷm ni'n ei drafod heddiw, a hoffwn i hefyd ddeall yn well y rhifau o bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau. Mae'r pwynt a wnaeth Cefin Campbell yn bwysig iawn yn hyn o beth, hynny yw, yr hyder a'r gallu i wneud hynny, ond mae'n rhaid i ni gael gwell dealltwriaeth na sydd gyda ni o'r rhifau o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau yma. Mae'r adroddiad ei hun yn dweud bod hynny'n llai na'r rhifau o bobl sydd yn medru'r Gymraeg, ac rwy'n falch ein bod ni'n gallu cydweithio â'r comisiynydd ar ddeall y darlun hwnnw yn gyflawnach, a'r pwynt pwysig a wnaeth Cefin Campbell yn ei gyfraniad e o ddeall y rhwystrau sydd yn golygu nad yw pobl yn mynnu'r gwasanaethau yn y Gymraeg, neu fod sefydliadau ddim yn gallu eu darparu nhw fel y byddem ni'n disgwyl yn y Gymraeg. Mae dealltwriaeth o'r pethau sydd yn rhwystro hynny yn gwbl greiddiol, rwy'n credu, i'r broses o sicrhau bod y safonau yn gwneud y gwaith rŷm ni eisiau iddyn nhw ei wneud.
Fe wnaeth Cefin Campbell ofyn pwynt penodol ar y rhwystrau o ran y broses o osod safonau. Rwy'n credu mai dyna oedd pwynt y cwestiwn. Mae'r broses o'u gosod nhw, fel mae e wedi esblygu, ddim yn tueddu tuag at broses syml. Hynny yw, mae camau mae'r comisiynydd yn eu gwneud, mae camau pellach mae'n rhaid inni eu gwneud fel Llywodraeth, ac mae'r cyrff sydd yn disgwyl bod yn ddarostyngedig i'r safonau wedyn mewn proses gynyddol a pharhaol o ymgynghori a chyfrannu. Felly, dwi ddim yn credu mai dyna'r ffordd orau o wneud hyn. Rŷm ni wedi cael trafodaeth ac yn dal i gael trafodaeth gyda'r comisiynydd—trafodaeth adeiladol—am sut allwn ni sicrhau bod y broses honno yn symlach, fel ein bod ni'n gallu gosod safonau sy'n gwneud eu pwrpas yn haws yn y dyfodol, ac, wrth gwrs, mae hynny yn rhan o'r cytundeb sydd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ynghyd â'r cwestiynau wnaeth Cefin Campbell sôn am safonau ar drafnidiaeth, ar gwmnïau dŵr, ar reoleiddwyr iechyd a chymdeithasau tai. Rwy'n disgwyl ymlaen at y cyfle i drafod hynny ymhellach ag e.
Ond gaf i ddiolch i'r comisiynydd am ei waith? Gaf i ddiolch i'r holl sefydliadau a mudiadau ac ymgyrchwyr eraill sy'n gwneud cyfraniad mor bwysig i ffyniant y Gymraeg ac yn ein helpu ni i gyd ar y nod rŷm ni i gyd yn ei rannu o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu defnydd pob dydd?
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.