Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, mae pont bibell Dolgarrog, sy'n cysylltu'r gymuned leol â'r orsaf drenau, wedi bod ar gau i gerddwyr a defnyddwyr lleol oherwydd pryderon diogelwch sylweddol, gan gynnwys dirywiad y byrddau dec pren a'r angen am fesurau ychwanegol i ddiogelu'r prif gyflenwad dŵr i dros 3,000 o gartrefi yn y gogledd. O ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd y llwybr cerdded poblogaidd yn Nolgarrog yn Aberconwy yn ailagor gyda chyfleusterau wedi eu huwchraddio, a fydd yn gwella mynediad at yr orsaf drenau leol. A allai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliant hwn sy'n cael ei wneud i'r ardal sydd i'w groesawu'n fawr? Diolch.