Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid o bron i £0.75 miliwn i ariannu cyfraniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy at ailwampio'r bont ac i ddarparu ar gyfer gwaith uwchraddio sylweddol yn ei gyfleusterau. Fel yr ydym ni wedi ei glywed, mae'n amwynder lleol poblogaidd iawn a bu'n rhaid ei gau yn ddiweddar. Nid yn unig y bydd yn cynorthwyo'r bobl hynny sy'n dymuno bod yn cerdded ac yn mwynhau amwynderau gwych y rhan honno o Gymru, ond bydd hefyd yn caniatáu mynediad haws rhwng y pentref a'i orsaf reilffordd, yn ogystal, wedyn, ag atyniadau twristiaeth lleol ehangach yn yr ardal. Felly, rwy'n falch iawn yn wir o weld ateb i'r problemau a gafwyd yno, ac yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud ein cyfraniad at wneud hynny.