Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:53, 23 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Fel yr ydym ni'n ei ddweud yn y rhagair i'n cytundeb, trwy bleidleisio i greu ein democratiaeth, roedd pobl Cymru hefyd yn dymuno gweld math newydd o wleidyddiaeth. Nawr efallai y gallwn ni faddau, ac yn wir dosturio wrth y Ceidwadwyr am gael eu dal yn eu meddylfryd San Steffan; byddai'n well gan lawer ohonyn nhw fod yno nag yma wedi'r cyfan. Maen nhw'n gweld y byd mewn gwrthwynebau deuaidd; rydym ni'n ceisio manteisio ar y traddodiad Cymreig mawr o gydweithredu. Cyfeiriais at Robert Owen yn fy sylwadau ddoe, yn sôn am Gymru a gafodd ei hadeiladu drwy gydweithrediad pawb er budd pob un. O'r traddodiad hwnnw rydym ni wedi creu model newydd, cytundeb pwrpasol rhwng un blaid mewn Llywodraeth ac un blaid sy'n wrthblaid, na allai neb fod wedi ei ragweld. Ond mae'n rhan o'r awydd hwnnw am wleidyddiaeth newydd a adeiladodd y sefydliad hwn a bydd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ei groesawu gan nad ydyn nhw eisiau gwleidyddion sy'n chwarae gemau parlwr San Steffan; maen nhw eisiau i'w cynrychiolwyr etholedig gydweithio i ddod o hyd i atebion i'n problemau niferus. Onid dyna, wedi'r cyfan, yw holl bwynt democratiaeth?