1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau ac, ar ran arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n gwybod yr hoffech chi i ni ganolbwyntio yn sesiwn cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw ar gytundeb eich plaid gyda chenedlaetholwyr Cymru, ond nid wyf i eisiau canolbwyntio ar yr hyn y mae llawer o bobl ar fy ochr i o'r Siambr yn ei ystyried yn fater eilradd. Rwyf i eisiau canolbwyntio ar faterion sy'n wirioneddol bwysig i bobl Cymru. Felly, hoffwn i eich holi ynghylch iechyd meddwl. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf cafodd adroddiad ei gyhoeddi ar wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Roedd yn anodd iawn ei ddarllen. Amlygodd adroddiad Holden, a gafodd ei atal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am bron i wyth mlynedd, ddiwylliant o fwlio, bygythiadau, prinder staff, esgeuluso cleifion, i gyd yn uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd. A allwch chi ddweud wrthyf, Prif Weinidog, pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu o'r adroddiad hwnnw?
Wel, fel y dywedodd yr Aelod, Llywydd, mae'r adroddiad yn wyth mlwydd oed, ac mae llawer o wersi wedi eu dysgu ers hynny. Cefais fy nghalonogi fy hun o weld bod adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar uned Hergest yn 2018 wedi canfod tystiolaeth bod yr uned yn darparu gofal diogel ar y pryd, a phan gynhaliodd AGIC archwiliad ansawdd yn yr uned ym mis Mai eleni, cadarnhaodd eto fod cynnydd sylweddol wedi ei wneud o ran dod â'r uned honno i lefel fwy derbyniol o ofal a darpariaeth i ddinasyddion yn y rhan honno o Gymru. Felly, dyna'r gwersi sydd wedi eu dysgu dros y cyfnod hwnnw o wyth mlynedd—y gellir goresgyn profiadau anodd iawn hyd yn oed a chyflwyno llwybr at welliant gyda phwyslais ac ymrwymiad priodol gan y rhai dan sylw.
Rwy'n synnu at eich ateb, Prif Weinidog. Ni ofynnais i chi pa wersi yr oedd y bwrdd iechyd wedi eu dysgu, gofynnais i chi pa wersi yr oeddech chi wedi eu dysgu—yr oedd Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu. Chi oedd y Gweinidog iechyd ar y pryd pan oedd y problemau hyn yn amlwg yn y gogledd. Roedd clychau larwm yn canu, roedd staff yn cwyno, roedd cleifion yn cael eu hesgeuluso, roedd rhai yn cael eu niweidio, ac roeddwn i, ynghyd â chynrychiolwyr etholedig eraill a oedd yn Aelodau o'r Senedd bryd hynny, yn mynegi pryderon mewn gohebiaeth â chi. Ond cymerodd ddwy flynedd i chi—dwy flynedd hir iawn—ac adroddiad damniol arall ar gam-drin ac esgeuluso sefydliadol mewn gwasanaethau iechyd meddwl, ar ward Tawel Fan Ysbyty Glan Clwyd y tro hwn, cyn i chi fynd ati o'r diwedd i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Ond wrth gwrs roedd yn rhy ychydig, yn rhy hwyr i'r cleifion hynny a oedd wedi dioddef niwed yn y cyfamser ac i'w hanwyliaid. A ydych chi, fel y Gweinidog iechyd ar yr adeg benodol honno, yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am y niwed a ddioddefodd y cleifion? A pha gamau sy'n cael eu cymryd yn awr i ddwyn i gyfrif y bobl hynny a oedd yn gyfrifol am y methiannau a gafodd eu nodi gan Holden am yr hyn a aeth o'i le?
Wel, Llywydd, rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am bopeth a wnes i ac a benderfynais i pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, yn y llawer iawn o gwestiynau a ofynnwyd i mi ar lawr y Senedd hon ac a atebais ar y pryd. Ymwelais ag uned Hergest pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, yn rhannol mewn ymateb i'r ohebiaeth yr oeddwn i'n ei chael yn ei chylch. Gwelais staff dan warchae ond ymroddedig iawn, yn benderfynol bob dydd i geisio gwneud gwahaniaeth ym mywydau'r bobl hynny yr oedd eu salwch yn gofyn am sylw iechyd meddwl cleifion mewnol. Roedd y bobl hynny yn benderfynol, er gwaethaf yr holl feirniadaeth, i ddod i'r gwaith bob dydd i wneud eu gorau, a dyna yr wyf i'n credu sy'n digwydd bob dydd, byth ers hynny, gan y bobl hynny sy'n darparu'r gwasanaethau hynny yn y gogledd. Nid oes gan yr Aelod, fel erioed, byth air da i'w ddweud dros unrhyw un sy'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd—[Torri ar draws.] Wel, nid wyf i wedi clywed gair da yn cael ei ddweud eto. Cawn weld a yw'n gallu dod o hyd i un nawr. Mae'r bobl hynny yn haeddu cefnogaeth gan bobl yn y Siambr hon, nid gofyn beth rydym ni'n mynd i'w wneud i gynnal rhyw fath o ymchwiliad ôl-weithredol i weld pwy y gellir rhoi'r bai arno. Fy nghred i yw, gyda rheolaeth newydd y gwasanaeth iechyd yn y gogledd—. A chefais gyfle ddoe, Llywydd, i drafod gyda chadeirydd y bwrdd iechyd, y prif weithredwr newydd a'r person sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl y cynlluniau sydd ganddyn nhw i barhau i ddatblygu ar y gwelliannau y maen nhw wedi gallu eu cyflawni. Mae angen llawer o welliannau pellach, ac mae hynny i gyd yn cael ei gydnabod gan y bobl sy'n gyfrifol ar lawr gwlad, ond wrth edrych ymlaen i adeiladu o hynny, i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i bobl yn y gogledd o ansawdd ac o safon ac o gysondeb y bydden nhw'n dymuno eu gweld.
Prif Weinidog, rwy'n siomedig iawn gyda'ch ymateb. Nid wyf i wedi bychanu mewn unrhyw ffordd y bobl ar rengoedd blaen ein gwasanaeth iechyd sy'n darparu gofal o ansawdd uchel o dan bwysau mawr ddydd ar ôl dydd. Yr hyn yr wyf i'n ei ofyn i chi yw: a wnewch chi dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd yn y gogledd i'w wasanaethau iechyd meddwl, o gofio mai chi oedd y Gweinidog iechyd ar y pryd? Ble mae'r atebolrwydd, ble mae'r ymddiheuriad i'r unigolion hynny a ddioddefodd o ganlyniad i'r oedi hwnnw cyn gweithredu? Fe wnaethoch chi osgoi cyfrifoldeb bryd hynny ac rydych chi'n ceisio gwneud yr un peth nawr, nid yn unig o ran gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd, ond hefyd wrth gwrs o ran eich penderfyniadau ynghylch y pandemig.
Felly, a gaf i ofyn cwestiwn ychydig yn wahanol i chi? A wnewch chi a'ch partneriaid clymblaid ym Mhlaid Cymru ddysgu'r gwersi o'r gorffennol? A wnewch chi roi'r gorau i'r petruso ac a wnewch chi wrando ar alwadau teuluoedd sy'n galaru sy'n adleisio yn fy nghlustiau, ac yn adleisio yn eich clustiau chi rwy'n siŵr, a chymryd camau cyflym yn awr—nid oedi cyn gweithredu—i gomisiynu ymchwiliad COVID penodol i Gymru cyn gynted â phosibl i ddysgu'r gwersi o'r pandemig hwn ac i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n cael eu hailadrodd yn y dyfodol?
Wel, Llywydd, ymysg ei sylwadau mwy sarhaus, fe wnaeth yr Aelod lwyddo i wasgu brawddeg allan i gydnabod ansawdd uchel y gofal sy'n cael ei ddarparu i'w etholwyr yn y gogledd. Trafodais holl fusnes ymchwiliad gyda Michael Gove, y Gweinidog sy'n gyfrifol am y mater hwn yn Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf. Cefais sicrwydd pellach ganddo o ymrwymiad Llywodraeth Geidwadol y DU i ymchwiliad a fydd yn rhoi'r atebion sydd eu hangen ar deuluoedd yng Nghymru. Dywedodd wrthyf ei fod yn gwbl ymwybodol o weithredoedd plaid Geidwadol Cymru i geisio tanseilio'r cytundeb yr wyf i wedi ei wneud gyda Phrif Weinidog y DU. Mae'n parhau yma eto heddiw. Efallai nad yw'n barod i ymddiried yn yr hyn y mae aelodau ei blaid ef yn y Llywodraeth yn San Steffan yn ei ddweud wrthyf; tan i mi weld tystiolaeth nad ydyn nhw'n barod i wneud yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrthyf bob tro y byddaf i'n ei drafod gyda nhw—[Torri ar draws.] Bob tro yr wyf i'n ei drafod gyda nhw, maen nhw'n dweud wrthyf eu bod nhw'n benderfynol o ddarparu ymchwiliad a fydd yn rhoi'r atebion y mae pobl sy'n siarad â mi a gydag ef—. Byddaf i'n eu credu nhw tan i mi weld tystiolaeth nad yw'r hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthyf yn wir. Ni fu ganddo ef unrhyw ymddiriedaeth yn yr hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthyf o'r cychwyn cyntaf.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n meddwl bod Darren Millar yn hynod dawedog heddiw am y cytundeb cydweithredu. Efallai, wn i ddim, ei fod yn gresynu at rai o'i linellau ymosod dros nos. Ond fe wnaethon nhw ddweud—ac fe wnaethoch chi ddweud—nad yw'r cytundeb yn gwneud dim i helpu pobl Cymru: dywedwch hynny wrth y 200,000 o blant a fydd yn cael prydau ysgol am ddim yn awr o ganlyniad i hynny; dywedwch hynny wrth y miloedd ychwanegol o blant a fydd yn derbyn gofal plant am ddim. Maen nhw'n dweud nad yw'n gwneud dim i'r GIG ac eto, yn y ganolog iddo y mae creu gwasanaeth gofal cenedlaethol a fydd yn gwneud y cyfraniad unigol mwyaf y gellir ei ddychmygu at ddatrys heriau hirdymor y gwasanaeth iechyd. Rydym ni'n addo gyda'n gilydd i fwydo ein plant a gofalu am ein henoed, a'r cyfan y gallan nhw ei gyfleu yw eu hagwedd negyddol arferol. Nid wyf i'n synnu nad yw The Daily Telegraph yn hoffi gweithredu radical ar ail gartrefi, ond pan fyddan nhw a'r Torïaid yn uno yn erbyn Cymru, onid dyna'r arwydd mwyaf sicr bod yn rhaid ein bod ni'n gwneud rhywbeth yn iawn?
Wel, Llywydd, erbyn diwedd y tymor Senedd hwn, bydd hi'n 25 mlynedd yn y diffeithwch i Blaid Geidwadol Cymru, ac fel y clywsom ni dros nos ac y clywsom ni eto heddiw, maen nhw'n gweithio yn galed iawn i haeddu'r sefyllfa honno. Hoffwn i dynnu sylw—ni fyddan nhw'n ei hoffi eto; rwy'n gallu eu gweld nhw'n ysgwyd eu pennau o'r fan yma—yn syth ar ôl yr etholiad, cawsom ddadl yma ar lawr y Senedd; cafodd llawer ei ddweud am yr angen i gydweithio ar faterion yr oeddem ni'n cytuno arnyn nhw. Ysgrifennais yn syth ar ôl hynny at arweinydd Plaid y Ceidwadwyr Cymreig yma ac ysgrifennais at arweinydd Plaid Cymru. Cefais ateb gan arweinydd Plaid Cymru; ni chefais ddim o gwbl gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Dyna pam nad ydyn nhw erioed wedi bod yn agos at y Llywodraeth yn y lle hwn, oherwydd nid yw'r aeddfedrwydd ganddyn nhw—y gallu, hyd yn oed—i fod yn rhan o Lywodraeth yma. Maen nhw yn y diffeithwch gan mai dyna le maen nhw'n haeddu bod.
Fel yr ydym ni'n ei ddweud yn y rhagair i'n cytundeb, trwy bleidleisio i greu ein democratiaeth, roedd pobl Cymru hefyd yn dymuno gweld math newydd o wleidyddiaeth. Nawr efallai y gallwn ni faddau, ac yn wir dosturio wrth y Ceidwadwyr am gael eu dal yn eu meddylfryd San Steffan; byddai'n well gan lawer ohonyn nhw fod yno nag yma wedi'r cyfan. Maen nhw'n gweld y byd mewn gwrthwynebau deuaidd; rydym ni'n ceisio manteisio ar y traddodiad Cymreig mawr o gydweithredu. Cyfeiriais at Robert Owen yn fy sylwadau ddoe, yn sôn am Gymru a gafodd ei hadeiladu drwy gydweithrediad pawb er budd pob un. O'r traddodiad hwnnw rydym ni wedi creu model newydd, cytundeb pwrpasol rhwng un blaid mewn Llywodraeth ac un blaid sy'n wrthblaid, na allai neb fod wedi ei ragweld. Ond mae'n rhan o'r awydd hwnnw am wleidyddiaeth newydd a adeiladodd y sefydliad hwn a bydd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ei groesawu gan nad ydyn nhw eisiau gwleidyddion sy'n chwarae gemau parlwr San Steffan; maen nhw eisiau i'w cynrychiolwyr etholedig gydweithio i ddod o hyd i atebion i'n problemau niferus. Onid dyna, wedi'r cyfan, yw holl bwynt democratiaeth?
Llywydd, mae Adam Price yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffordd y bu'n bosibl, ers dechrau datganoli, creu cytundebau rhwng pleidiau blaengar yma; pleidiau â syniadau, pleidiau â pharodrwydd i dderbyn y cyfrifoldeb o fod mewn Llywodraeth. Yr haf cyntaf un yr oeddwn i'n gweithio yn y Cynulliad fel yr oedd ar y pryd, Llywydd, haf y flwyddyn 2000, roeddwn i'n cael cyfarfod bob wythnos gyda phennaeth staff plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yma, ac fe wnaethom ni lunio cytundeb a arweiniodd yr hydref hwnnw at y Llywodraeth drawsbleidiol gyntaf yma yng Nghymru. Roeddem ni'n meddwl ar y pryd ein bod ni'n gwneud rhywbeth rhyfedd ac anarferol iawn, ac yn wir rwy'n cofio mynd gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, i gyfarfodydd y Blaid Lafur lle'r oedd yn ysgwyddo'n llawn y dieithrwch a'r peth anarferol yr oedd wedi ei wneud.
Ers hynny, yn nhymhorau olynol y Senedd, rydym ni wedi dangos ein bod ni yma yng Nghymru yn gallu gwneud pethau yn wahanol, ein bod ni'n gallu llunio gwahanol fath o wleidyddiaeth, yn y ffordd y mae Adam Price wedi ei ddweud. Mae'r cytundeb y mae ei blaid ef a fy mhlaid i wedi ei daro yn wahanol i unrhyw fath blaenorol o gytundeb, ond mae hynny oherwydd ein bod ni'n barod i wneud y peth anodd, sef dod o hyd i'r creadigrwydd, dod o hyd i'r dychymyg, a dod o hyd i'r tir cyffredin ar gyfer cytundeb rhyngom. O ganlyniad, byddwn yn gallu cyflawni pethau yn y Senedd hon i bobl ledled Cymru na fydden nhw efallai wedi bod yn bosibl fel arall. Rwy'n credu y bydd hynny yn cael ei groesawu. Rwy'n credu bod pobl y tu allan i'r Senedd yn disgwyl i ni weithio gyda'n gilydd pan fyddwn ni'n gallu, ar y pethau y mae gennym ni gytundeb ar eu cyfer, a byddan nhw'n gweld ffrwyth ymarferol hynny dros y tair blynedd nesaf.
Beth bynnag fo barn rhywun am gynnwys y cytundeb cydweithio, does dim dwywaith bod hwn yn gytundeb radical a fydd yn delifro ar rai o'r pethau y mae ymgyrchwyr wedi bod yn brwydro arnyn nhw ers degawdau, fel rheoli'r farchnad dai. Ond does bosib na fyddai unrhyw un yn anghytuno y dylai ein dinasyddion ni allu cael y wybodaeth gywir i'n dal ni i gyd i gyfrif, ac mae'n gwbl amlwg i bawb nad yw hynny'n digwydd fel y dylai fe ar hyn o bryd. I'r rhannau hynny o'r wasg Lundeinig a wnaeth, a bod yn deg, drafferthu i adrodd ar y datblygiad newydd hwn yng ngwleidyddiaeth Cymru ddoe, roedd yr anwybodaeth yn drawiadol. Roedd un adroddiad yn cyfeirio at 15 Aelod Plaid Cymru o'r Senedd ac un arall yn sôn mai Plaid Cymru oedd y drydedd blaid o fewn Llywodraeth Cymru. Oni ddylai pawb, gobeithio, allu uno tu ôl i'r cyfle mae'r cytundeb yn ei gynnig i gau'r bwlch democrataidd a chreu system gyfryngol i Gymru sy'n gwasanaethu anghenion ein pobl ac yn eu grymuso nhw i gymryd rhan yn ein democratiaeth ni?
Dwi'n cytuno ag Adam Price achos mae'r bwlch democrataidd yn amlwg i unrhyw berson i'w weld pan ydyn nhw'n darllen beth mae'r wasg yn Llundain wedi ei ddweud am bron popeth sy'n mynd ymlaen yma yng Nghymru, ac roedden nhw'n gwneud yr un peth ddoe hefyd. Ar ddiwedd y dydd, Llywydd, fel roeddem ni'n dau yn sôn ddoe, yn nwylo pobl yng Nghymru bydd y penderfyniadau ar ôl y cytundeb. Os yw pobl yng Nghymru yn gallu gweld beth rŷn ni'n ei wneud, pethau blaengar a phethau uchelgeisiol, dwi'n siŵr y bydd hwnna yn cael ei werthfawrogi. Ond yn eu dwylo nhw mae e ar ddiwedd y dydd.
Cwestiwn 3 nawr, gan Joyce Watson.