Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Rwy'n diolch i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Rydym ni'n cryfhau ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys trais a cham-drin yn gyhoeddus ac yn y gweithle, yn ogystal ag yn y cartref. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth yn cael ei lansio fis nesaf. Mae hon yn broblem gymdeithasol sy'n gofyn am ymateb cymdeithasol.