Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Llywydd, i gydnabod y pwysau cynyddol a achoswyd gan y pandemig, rydym ni wedi dyrannu cyllid ychwanegol o £10 miliwn i gynorthwyo gofalwyr di-dâl o bob oed yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys dyrannu £5.5 miliwn i awdurdodau lleol i ddarparu amrywiaeth o gymorth i ofalwyr di-dâl dros y gaeaf hwn.