1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2021.
7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gofalwyr di-dâl y gaeaf hwn? OQ57259
Llywydd, i gydnabod y pwysau cynyddol a achoswyd gan y pandemig, rydym ni wedi dyrannu cyllid ychwanegol o £10 miliwn i gynorthwyo gofalwyr di-dâl o bob oed yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys dyrannu £5.5 miliwn i awdurdodau lleol i ddarparu amrywiaeth o gymorth i ofalwyr di-dâl dros y gaeaf hwn.
Diolch, Prif Weinidog. Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar, canfu Carers UK fod 36 y cant o ofalwyr yng Nghymru wedi dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd; ysgrifennodd 34 y cant fod eu hiechyd meddwl yn wael neu'n wael iawn; a dywedodd 36 y cant eu bod nhw'n aml, neu bob amser, yn unig. Yn anffodus iawn, canfu hefyd fod gofalwyr yn rhoi sgôr cyfartalog o 4 allan o 10 yn unig i'w boddhad cyffredinol â bywyd. Y tu ôl i bob ystadegyn mae rhywun sy'n gofalu am anwylyn.
Mae gofalwyr yn gwbl amhrisiadwy. Rwy'n gwybod bod gwasanaethau cymorth ar waith, ond mae'r pandemig wedi tarfu, ac yn dal i darfu ar lawer o wasanaethau. Mae hi'n Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr dydd Iau yma. Yn dilyn y 19 mis diwethaf, mae angen ein cymorth ar ofalwyr yn awr yn fwy nag erioed. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adfer gwasanaethau gofal y tarfwyd arnyn nhw, a sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob gofalwr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael?
Llywydd, rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd Jayne Bryant am y gwasanaeth amhrisiadwy y mae gofalwyr di-dâl yn ei ddarparu yng Nghymru, ac effaith y pandemig, arnyn nhw yn uniongyrchol ac ar eu gallu i gael gafael ar wasanaethau. Er hynny, rwy'n credu bod partneriaid ledled Cymru gyfan, ac o bob perswâd plaid wleidyddol, yn gweithio yn galed iawn i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hynny yn cael eu hadfer.
Yn ddiweddar, rhoddodd Llywodraeth Cymru £3 miliwn i awdurdodau lleol i'w helpu gyda'u gwasanaethau gofal seibiant. Felly, i roi rhai enghreifftiau i chi—a bydd fy nghyd-Weinidog Julie Morgan yn dweud mwy am hyn, Llywydd, mewn datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon—. Yng Ngwynedd, yn y gogledd, mae'r cyngor yno yn defnyddio ei gyfran o'r arian hwnnw i wella ac i ymestyn yr amrywiaeth o wasanaethau gofal seibiant y mae'n eu darparu. Yn Abertawe, maen nhw wedi datblygu gwasanaeth seibiant ymateb cyflym yn y cartref.
Yn Nhrefynwy, mae 1,400 o ofalwyr di-dâl a gofalwyr ifanc wedi manteisio ar gynllun newydd a sefydlwyd gan yr awdurdod lleol i ganiatáu mynediad at weithgareddau ar raddfa fach i bobl sy'n treulio cymaint o'u hamser yn gofalu am bobl eraill. Rwy'n credu y gallwch chi weld yno bod dychymyg a phenderfyniad ymhlith ein partneriaid i adfer y gwasanaethau hynny, a'i wneud mewn ffordd sy'n diwallu anghenion pobl sydd wedi cynnig cymaint.
Wrth gwrs, mae Jayne Bryant yn iawn, Llywydd, bod gwybod eich hawliau fel gofalwr yn bwysig iawn. Rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru, unwaith eto eleni, yn helpu i ariannu a chymryd rhan yn yr ymgyrch wybodaeth hawliau gofalwyr genedlaethol. Mae'n bartneriaeth â Gofalwyr Cymru a'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yma yng Nghymru. Mae gennym ni rywfaint o dystiolaeth, Llywydd, o rywfaint o lwyddiant yn yr ymdrechion hynny.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru £1.25 miliwn mewn cronfa cymorth i ofalwyr i helpu gydag effaith benodol y pandemig. Roedd y gronfa honno ar gael rhwng mis Hydref y llynedd a diwedd mis Mawrth eleni. Llwyddodd tua 6,000 o ofalwyr i dynnu arian o'r ffrwd cyllid newydd honno, ac nid oedd 2,500 ohonyn nhw erioed wedi derbyn unrhyw fath o gymorth o'r blaen. Mae hynny yn rhoi rhywfaint o hyder i mi fod yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael yn hysbys i'r bobl sydd eu hangen nhw—bod rhywfaint o lwyddiant yn cael ei sicrhau yn hynny o beth.