1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2021.
6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru? OQ57254
Llywydd, yn ogystal â goruchwyliaeth weinidogol, ceir ymgysylltu rheolaidd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd yn rhan o'r ymyriad wedi ei dargedu sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd.
Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb. Hoffwn i gymryd eiliad hefyd i dynnu sylw at adroddiad damniol Holden a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, y mae fy nghyd-Aelod, Darren Millar wedi ei godi gyda chi yn gynharach heddiw, oherwydd ei fod yn adroddiad mor arwyddocaol i fy nhrigolion yr wyf i'n eu cynrychioli yn y gogledd. A, Prif Weinidog, mae'r adroddiad hwn yn frawychus. Mae'n ymddangos ei fod yn cyfeirio at batrwm o ymddygiad sy'n ymestyn yn ôl flynyddoedd lawer. Ac fel y nodwyd eisoes, eich Llywodraeth chi oedd yn gyfrifol am fethiannau sylweddol gwasanaethau iechyd meddwl yn y bwrdd iechyd hwn, a dyma'r un bwrdd iechyd y gwnaethoch chi synnu llawer o bobl drwy ei dynnu allan o fesurau arbennig ychydig fisoedd yn unig cyn yr etholiadau ym mis Mai.
Mae iechyd meddwl yn un o brif bolisïau allweddol rhaglen lywodraethu eich Llywodraeth chi—yn wir, mewn clymblaid â Phlaid Cymru—ac eto, mae'r adroddiad hwn wedi dangos bod cleifion wedi dioddef niwed ac wedi eu hesgeuluso o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru. Felly, Prif Weinidog, sut gwnewch chi feithrin ymddiriedaeth pobl, yn enwedig y trigolion yr wyf i'n eu gwasanaethu yn y gogledd, iddyn nhw gredu eich bod chi'n cymryd iechyd meddwl o ddifrif?
Llywydd, rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig gwneud yn siŵr bod ymddiriedaeth briodol rhwng pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'r ddarpariaeth o'r gwasanaethau hynny yn y gogledd ac mewn mannau eraill. Yn fy nhrafodaeth gyda chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd ddoe, fe wnaethon nhw nodi rhai o'r llwyddiannau sydd yno mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd: y wobr genedlaethol i wasanaeth anabledd dysgu Llanfairfechan a'r ffaith eu bod nhw'n cyrraedd eu targedau amseroedd aros ar gyfer therapïau seicolegol yn y gogledd. Ac yna fe wnaethon nhw gyfeirio at yr heriau y mae'r bwrdd yn eu hwynebu hefyd; heriau o ran ei ystâd, ac mae Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio gyda'r bwrdd ar gynigion ar gyfer buddsoddiad newydd yn Ysbyty Glan Clwyd yn yr ystâd ffisegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yno; gan edrych ar recriwtio lle mae'r bwrdd wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn ddiweddar o ran cryfhau ei ddarpariaeth seiciatreg ymgynghorol; datblygu modelau newydd, er enghraifft, gyda therapyddion ymgynghorol; cydweithio â gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol i symud ymyrraeth yn fwy tuag at atal nag ymdrin â chanlyniadau salwch meddwl; ac ymgyrch recriwtio ym mis Ionawr i ddod â mwy o bobl i mewn i'r gwasanaeth hwnnw.
Dywedodd y Cadeirydd wrthyf fod y bwrdd yn gwbl ymwybodol o'r sefyllfa. Roedd gan aelodau annibynnol ddealltwriaeth gynhwysfawr o wasanaethau a heriau iechyd meddwl, a dywedodd y prif weithredwr newydd wrthyf fod ganddi bwyslais penderfynol ar welliant ym maes iechyd meddwl ar draws y bwrdd iechyd. Rwy'n credu y bydd y pethau hynny yn helpu i ailadeiladu ac ailsefydlu ymddiriedaeth, ac rwy'n credu bod y bwrdd a'i swyddogion gweithredol wedi ymrwymo yn llwyr i'r daith honno.