Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Diolch am yr ateb. Rydych chi’n dweud mai mater i’r bwrdd oedd hynny. Wel, mi wnaeth eich Gweinidog iechyd chi, a oedd yn Ddirprwy Weinidog iechyd meddwl ar y pryd, gadarnhau i mi flwyddyn yn ôl ei bod hi wedi darllen adroddiad Holden. Nawr, blwyddyn yn ôl oedd hynny, cofiwch, pan oedd y bwrdd dal mewn mesurau arbennig, ac felly’n dal o dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth chi. Pam felly na wnaethoch chi fynnu bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi pan oeddech chi’n rhedeg y bwrdd iechyd, achos, wrth gwrs, mi fuoch chi’n rhedeg y bwrdd am bum mlynedd o’r wyth mlynedd hir buodd rhaid i bobl ogledd Cymru aros i’r adroddiad weld golau dydd?