Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Wel, fel esboniais i, Llywydd, nid mater i’r Llywodraeth oedd y penderfyniad cyfreithiol i gyhoeddi y ddogfen. Cyfrifoldeb y bwrdd oedd e i wneud y penderfyniadau yna. Dyna pam mai’r bwrdd sydd wedi bod mewn cysylltiad gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ac sydd wedi dod i’r casgliad gyda’r swyddfa a gyda’r tribunal sydd wedi bod yn edrych i mewn i benderfyniadau’r bwrdd i gyhoeddi’r adroddiad nawr. Eu cyfrifoldeb nhw yw e, a nhw sy’n gyfrifol am y penderfyniadau maen nhw wedi eu gwneud.