Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:57, 23 Tachwedd 2021

Dwi'n cytuno ag Adam Price achos mae'r bwlch democrataidd yn amlwg i unrhyw berson i'w weld pan ydyn nhw'n darllen beth mae'r wasg yn Llundain wedi ei ddweud am bron popeth sy'n mynd ymlaen yma yng Nghymru, ac roedden nhw'n gwneud yr un peth ddoe hefyd. Ar ddiwedd y dydd, Llywydd, fel roeddem ni'n dau yn sôn ddoe, yn nwylo pobl yng Nghymru bydd y penderfyniadau ar ôl y cytundeb. Os yw pobl yng Nghymru yn gallu gweld beth rŷn ni'n ei wneud, pethau blaengar a phethau uchelgeisiol, dwi'n siŵr y bydd hwnna yn cael ei werthfawrogi. Ond yn eu dwylo nhw mae e ar ddiwedd y dydd.