Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ar 19 Tachwedd, dydd Gwener diwethaf, cynhaliodd Cymru uwchgynhadledd Cyngor Prydeinig-Gwyddelig rhif tri deg chwech yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng Nghaerdydd. Roedd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg a minnau'n cynrychioli Llywodraeth Cymru. Ymunodd cynrychiolwyr o holl weinyddiaethau aelodau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig â ni naill ai'n bersonol neu drwy ein systemau fideogynadledda. Croesawais arweinwyr o'r DU, Iwerddon, a oedd wedi'u cynrychioli gan y Taoiseach a'r Tánaiste, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw. Cynhaliais gyfarfodydd dwyochrog hefyd gyda Michael Gove, a arweiniodd ddirprwyaeth y DU, Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, a dirprwyaeth Weithredol Gogledd Iwerddon—y Gweinidogion Deirdre Hargey a Gary Middleton—yn ogystal â Dirprwy Brif Weinidog newydd Ynys Manaw, Jane Poole-Wilson.
Cafodd yr uwchgynhadledd ei chynnal ar adeg arbennig o hanfodol i aelodau gweinyddiaethau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yng nghyd-destun adferiad o'r pandemig, trafodaethau parhaus rhwng y DU a'r UE, a'r angen i Lywodraethau gydweithio i weithredu yn erbyn newid hinsawdd, yn dilyn COP26 yn Glasgow. Rhoddodd ein trafodaethau ar y cyd, Dirprwy Lywydd, gyfle gwerthfawr i ystyried y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf, i rannu profiadau o ymdrin â heriau cyffredin, ac i nodi ffyrdd y gallwn ni ddefnyddio profiad ac egni cyfunol y Llywodraethau er budd yr holl bobl ledled yr ynysoedd sy'n cael eu cynrychioli. Yn benodol, mewn cyfarfod bore cynnar ddydd Gwener cyn prif ddigwyddiad cyfarfod llawn yr uwchgynhadledd, gwnaethom ni drafod ffyrdd o gyflymu'r cyfraniadau cyfunol y gallai aelodau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig eu gwneud wrth fynd ar drywydd agenda COP26. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar bwysigrwydd ymgysylltu â dinasyddion a'r gymuned mewn cyfnod pontio teg i sero net, ac mae gwaith wedi'i gynllunio i rannu ymchwil ac ystyried ymgysylltu arall â chymunedau arfordirol, ôl-ddiwydiannol a gwledig ar yr agenda hon.
Roedd y cyfarfod ffurfiol llawn yn gyfle i archwilio safbwyntiau gwahanol ar weithredu protocol Gogledd Iwerddon a chyflwr y berthynas rhwng aelodau cyfansoddol y cyngor a'r Undeb Ewropeaidd. O ran y sefyllfa bresennol ynghylch y trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r UE, manteisiais ar y cyfle i atgyfnerthu barn Llywodraeth Cymru am bwysigrwydd gwneud cynnydd a datrys materion drwy ddeialog yn hytrach na gweithredu unochrog neu wltimatwm.