3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:16, 23 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau am y trafodaethau a gafwyd ynglŷn â phorthladd Caergybi, ac rydych chi yn llygad eich lle bod gwasgu o'r ddwy ochr, gyda'r cynnydd yn y traffig uniongyrchol i'r cyfandir, ond fe geir y cyswllt â Gogledd Iwerddon hefyd. A wnewch chi roi sicrwydd i mi y byddwch chi'n pwyso ar Lywodraeth y DU i beidio â chaniatáu i borthladdoedd Lerpwl, porthladdoedd ar afon Mersi, fod â mwy o amlygrwydd na Chaergybi? Rwy'n cofio mor bell yn ôl â datblygiad y rhwydwaith trafnidiaeth TEN-T, lle'r oedd Caergybi yn cael ei ystyried yn llai teilwng o'r flaenoriaeth na phorthladdoedd afon Mersi bryd hynny. Nawr, rydym ni'n cyrraedd pwynt lle mae hynny'n golygu rhywbeth gwirioneddol, ac mae angen y sicrwydd hwnnw arnom ni i borthladd Caergybi.