Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau o ran sefyllfa iechyd y cyhoedd a chanlyniad adolygiad yr wythnos diwethaf o reoliadau coronafeirws.
Ers fy niweddariad diwethaf i dair wythnos yn ôl, bu gostyngiad yng nghyfraddau cyffredinol yr haint yng Nghymru. Maen nhw wedi gostwng o'r lefelau uchel iawn a welsom ni ar ddiwedd mis Hydref, diolch i waith caled pawb ledled Cymru. Er hynny, nid ydym ni wedi cyrraedd y lan eto. Mae achosion yn parhau i fod yn niferus ledled Cymru â thua 500 o achosion fesul 100,000 o bobl, mae pobl yn parhau i gael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd COVID-19 ac, yn anffodus iawn, mae'r data diweddaraf yn dangos bod dros 250 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r feirws wedi cael eu cofrestru yng Nghymru yn ystod y tair wythnos diwethaf.
Mae ein system gofal iechyd ni dan bwysau mawr ar hyn o bryd oherwydd y cyfuniad o bwysau'r pandemig a phwysau'r gaeaf; oherwydd cynnydd mawr mewn galwadau brys gan geisio hefyd dal i fyny â'r triniaethau a'r llawdriniaethau a ohiriwyd yn gynharach yn ystod y pandemig. Mae ein GIG ni a'n staff gofal ni'n gwneud gwaith ardderchog dan amgylchiadau eithriadol. Fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw'n ei wneud bob dydd. Maen nhw'n dal i fod â rhan hanfodol yn ein hymateb ni i'r pandemig, wrth ofalu am y rhai sydd ag angen cymorth hefyd.
Bydd Cymru yn parhau i fod ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf. Ni fydd unrhyw newidiadau pellach i'r gyfres o amddiffyniadau sydd gennym ni ar waith. Ni fyddwn ni'n ymestyn y defnydd o'r pàs COVID ymhellach ar hyn o bryd. Ond, fe fyddwn ni'n parhau i'w gadw yn ddewis i helpu i gadw busnesau lletygarwch yn agored ac yn gweithio drwy fisoedd y gaeaf a chyfnod prysur y Nadolig.
Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'r sector. Ein nod ni yw cadw Cymru ar agor a diogelu Cymru. Efallai fod achosion wedi gostwng o'r cyfraddau uchaf erioed a welsom ni ychydig wythnosau nôl, ond mae'r pandemig ymhell o fod ar ben. Mae pedwaredd don yn ysgubo ar draws Ewrop ac mae llawer o wledydd yn cyflwyno cyfyngiadau newydd i reoli ymlediad coronafeirws. Fe ddechreuodd Awstria gyfnod o gyfyngiadau symud llawn o 20 diwrnod ddoe, a bydd brechiadau COVID yn orfodol yno o fis Chwefror ymlaen. Mae'r Almaen yn ystyried dilyn eu hesiampl nhw ar ôl cyflwyno cyfyngiadau newydd ar gyfer pobl sydd heb eu brechu mewn sawl ardal. Cyflwynodd Slofacia gyfnod o gyfyngiadau symud ddoe ar gyfer y rhai sydd heb eu brechu. Mae Llywodraeth y Weriniaeth Tsiec yn cyfyngu ar y gallu i wneud defnydd o amrywiaeth o wasanaethau, ac mae gan yr Iseldiroedd gyfyngiadau symud rhannol ar waith.
Yn nes adref, mae Gweriniaeth Iwerddon wedi cyflwyno amddiffyniadau newydd yn dilyn ymchwydd o achosion. Mae'r rhain yn cynnwys cyrffyw hanner nos ar gyfer lletygarwch, gweithio gartref, ac ymestyn ei phàs COVID ar gyfer theatrau a sinemâu. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd pàs COVID yn cael ei gyflwyno ar gyfer lletygarwch, clybiau nos, digwyddiadau, sinemâu a theatrau, ac mae'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cyfyngiadau pellach i leihau'r achosion cynyddol. Yn yr Alban, mae'r Llywodraeth yn penderfynu a ddylid ymestyn ei phasbort brechlyn i gynnwys sinemâu a theatrau dan do. Rwy'n credu eu bod nhw wedi penderfynu na fyddan nhw'n gwneud felly ar hyn o bryd.