Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Dirprwy Lywydd, brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn pobl rhag y feirws dychrynllyd hwn, yn enwedig pan fyddwn ni hefyd yn cymryd yr holl fesurau eraill sydd ar gael i ni ddiogelu ein hunain. Rŷm ni'n dal i annog pawb sy'n gymwys i dderbyn y cynnig i gael y brechiad a'r brechiad atgyfnerthu. Rŷm ni'n gweithredu'r cyngor diweddaraf gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu i gynnig ail ddos o'r brechlyn i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed. A byddwn ni nawr yn ymestyn y rhaglen atgyfnerthu i bobl 40 i 49 oed hefyd.
Mae ein rhaglen frechu nawr yn cynnig dosau cyntaf i bawb sy'n 12 oed a throsodd ar yr egwyddor bod neb yn cael ei adael ar ôl, ail ddosau i bawb sy'n gymwys, gan gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed, trydydd dos sylfaenol i unigolion sydd â system imiwnedd wan iawn, a dosau atgyfnerthu i grwpiau cymwys, gan gynnwys pobl 40 i 49 mlwydd oed. Hyd heddiw, mae 90 y cant o oedolion cymwys wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn, ac mae 82 y cant wedi cael ail ddos. Mae mwy na 725,000 o ddosau atgyfnerthu wedi cael eu rhoi hyd yma. Mae 71 y cant o holl staff gofal iechyd y rheng flaen, tri chwarter o bobl dros 80 mlwydd oed, a 78 y cant o breswylwyr cartrefi gofal sy'n gymwys, wedi cael y brechiad atgyfnerthu.
Dirprwy Lywydd, nid yw'r arwyddion ar y cyfandir yn dda. Mae ton newydd o'r coronafeirws yn ymledu ar draws Ewrop unwaith eto, ac mae gwledydd o'n cwmpas ni yn tynhau eu cyfyngiadau nhw. Nid oes unrhyw un am weld cyfyngiadau nôl ar waith yng Nghymru dros y Nadolig, ond dydyn ni ddim chwaith am weld pobl yn mynd yn sâl gyda COVID adeg y Nadolig. Mae'r cylch tair wythnos hwn yn hanfodol. Mae angen help a chymorth pob un arnom ni i gadw'r feirws hwn o dan reolaeth wrth i ni ddechrau edrych ymlaen a chynllunio at y Nadolig.
Byddwn ni'n dal i wneud popeth allwn ni drwy ein rhaglen frechu ac atgyfnerthu rhagorol; profi'n rheolaidd mewn ysgolion a rhoi mesurau amddiffynnol eraill ar waith i gadw'r feirws allan o'n hysgolion ni; defnyddio'r pàs COVID mewn rhai lleoliadau; hunanynysu os bydd gan rywun rŷm ni'n byw gyda nhw COVID-19; a chymryd yr holl gamau syml sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel, sef golchi dwylo yn rheolaidd, gwisgo masgiau, a chadw pellter cymdeithasol pan fo hynny'n bosibl.
Mae'r gostyngiad yn y cyfraddau ers yr adolygiad diwethaf yn gadarnhaol iawn, ond rhaid inni wneud mwy eto. Gadewch inni i gyd weithio gyda'n gilydd. Gadewch inni i gyd ddiogelu Cymru. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.