Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny a byddwn i'n hapus iawn, wrth gwrs, i gydweithio ag e a'i bwyllgor i ddatblygu'r cynigion sydd yn y pecyn sy'n cael ei ymgynghori arno heddiw. O ran beth yw dylanwad gwaith Dr Brooks ar y cynllun hwn ac ar y cynllun mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ei ddatgan heddiw, dwi'n credu ei fod e'n gwbl greiddiol i'r holl weledigaeth sydd yma. Mae wedi cael effaith sylweddol iawn ar yr hyn rydyn ni'n cyhoeddi. Enghreifftiau o hynny, yw'r pwysigrwydd efallai y gwnaeth yr Aelod glywed ar sicrhau bod gennym ni sector dwristiaeth sy'n gynaliadwy ac sydd yn caniatáu gweithgaredd a chyfleoedd economaidd yn lleol, pwysigrwydd yr economi leol yn ehangach, ac mae hynny wrth wraidd yr hyn rŷn ni'n ei gynnig o ran mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol.
Ond yn benodol, felly, ar waith y comisiwn—a gydag ymddiheuriadau i Cefin Campbell, gwnes i ddim ateb y rhan hwn o'i gwestiwn e—dydyn ni ddim yn sôn am ryw gomisiwn sydd yn gorff statudol yn cael ei sefydlu yn annibynnol o'r Llywodraeth. Mae gennych chi gyfle yma i'r comisiwn edrych ar dystiolaeth empiric, os hoffech chi, fydd yn sail i'n dealltwriaeth ni o impact newidiadau sosioeconomaidd ar ein cymunedau Cymraeg ni, ond hefyd i greu sail o dystiolaeth ar gyfer y syniad yma o ardaloedd o ddiddordeb a sensitifrwydd sylweddol o ran yr iaith. A bydd hynny, efallai, yn creu cyfle inni deilwra pecyn o ymyraethau pellach yn y dyfodol yn benodol ar gyfer cymunedau sydd yn arbennig o sensitif o ran dyfodol a ffyniant yr iaith yn y cymunedau hynny.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â sut mae elfennau gwahanol y Llywodraeth yn cydweithio. Mae hwn yn flaenoriaeth sydd yn cyffwrdd â bron pob rhan o'r ystod o gyfrifoldebau'r Llywodraeth. Er enghraifft, mae'r bwrdd crwn eisoes yn un sydd yn cyffwrdd ar yr iaith, yr economi a nawr, o hyn allan, y cwestiwn o dai hefyd. Felly, mae gan y Gweinidogion sydd â diddordeb a chyfrifoldeb ymhob un o'r ardaloedd hynny rôl mewn perthynas â gwaith y bwrdd crwn. A hefyd mae grŵp trawsbleidiol wedi bod yn gweithio ar rai o'r pethau yma, ac mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, minnau, y Gweinidog cyllid, a Gweinidog yr Economi o bryd i'w gilydd wedi bod yn rhan o'r fforwm yna fel ein bod ni'n gallu cyfrannu ar y cyd i ateb y nod pwysig hwn.