Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Diolch am ildio. Rwyf wedi siomi eich bod yn teimlo ei bod yn anghyfrifol nad ydym ni'n cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw, ond fe wnaethoch chi eich hun a'r Prif Weinidog ddweud, wrth gyflwyno tocynnau COVID, eu bod yn benderfyniadau yr oedd angen eu gwneud yn ofalus iawn o ran goblygiadau moesegol. Felly, siawns eich bod yn derbyn ein bod â barn wahanol ar y penderfyniadau gofalus hynny y gwnaethoch chi eich hun sôn amdanyn nhw.