Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Rwy'n gwerthfawrogi yn wirioneddol y pwynt sydd newydd gael ei wneud gan Russell fod y rhain, weithiau, yn benderfyniadau gofalus iawn a'u bod yn cael eu cymryd yn rhan o ystod o fesurau. Ond fy mhwynt i yn syml fyddai, Russell a'r Gweinidog, os yw'n benderfyniad gofalus, y dylid arfer y gofal hwnnw felly er budd iechyd a diogelwch y cyhoedd, ac osgoi'r hyn yr ydym yn ei weld yn digwydd yn awr ar y cyfandir.