Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Pam fod disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymgynghori â Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno Bil sy'n ymwneud â Lloegr yn unig, mewn maes sy'n ddatganoledig i Gymru? Rôl Senedd Cymru yw pasio Deddfau mewn meysydd datganoledig. Nid rôl Llywodraeth San Steffan yw ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch a ydyn nhw am gynnwys rhywbeth mewn Bil yn San Steffan.