– Senedd Cymru am 5:28 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Eitem 8 yw'r eitem nesaf, a hwn yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd). Rwy'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am ystyried ac adrodd ar y memorandwm. Ni wnaeth y naill bwyllgor na'r llall nodi rhwystr i'r Senedd gytuno i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n nodi'r pwyntiau defnyddiol a gafodd eu codi gan y ddau bwyllgor, ac rwyf wedi ysgrifennu at yr Aelodau cyn y ddadl heddiw yn rhoi eglurhad ar y materion a gafodd eu codi.
Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) ar 12 Mai i ddarparu na ellid ystyried materion y gellir eu priodoli i COVID-19 at ddibenion apeliadau ardrethi annomestig gan nodi newid sylweddol mewn amgylchiadau. Bydd darpariaethau yn y Bil sy'n berthnasol i Gymru yn atal apeliadau o'r fath, yn arfaethedig ac yn ôl-weithredol, a hynny ar unwaith o ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol. Ar 1 Tachwedd, gosodais Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021, a ddechreuodd yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Effaith y rheoliadau hynny yw atal, yn arfaethedig, apeliadau newid sylweddol mewn amgylchiadau rhag cyfeirio at faterion sy'n ymwneud â COVID-19. Mae'r Bil yn gweithredu fel cyfrwng addas i atal apeliadau o'r fath, yn arfaethedig ac yn ôl-weithredol. Mae'r darpariaethau yn y Bil yn disodli'r rheoliadau, ac rwy'n bwriadu dirymu'r rheoliadau, ar ôl i'r Bil gael ei basio, er mwyn sicrhau eglurder deddfwriaethol. Y prif reswm dros gyfyngu ar apeliadau o'r math hwn yw y bydd effaith economaidd ehangach pandemig COVID-19 yn cael ei hystyried yn rhan o'r ailbrisio ardrethi annomestig nesaf ym mis Ebrill 2023. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu pecyn helaeth o gymorth i fusnesau a thalwyr ardrethi eraill i'w helpu drwy'r pandemig.
Mae'r Bil hefyd yn rhoi eglurder i dalwyr ardrethi yng Nghymru yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Rwy'n credu bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon. Fodd bynnag, rwy'n fodlon y dylid gwneud y darpariaethau hyn mewn Bil y DU. Mae perygl agos i gyllid cyhoeddus sy'n gofyn am weithredu cyflym i egluro'r sefyllfa. Ni ellid gweithredu hyn drwy ddeddfwriaeth sylfaenol yn y Senedd hon o fewn yr amserlen ofynnol. Mae hwn yn Fil byr i sicrhau newid sy'n rhoi sicrwydd o fewn y system apêl ardrethi annomestig ac ar gyfer cyllid llywodraeth leol yng Nghymru, ac rwy'n gofyn i'r Senedd gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Fe wnaethon ni adrodd ar y memorandwm yr wythnos diwethaf. Fe wnaethon ni hefyd adrodd ar Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021, sydd hefyd yn berthnasol i'r ddadl y prynhawn yma.
Diolch, i ddechrau, i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, a'n tîm clercio hefyd, am eu diwydrwydd a'u gwaith craffu. Efallai nad oes llawer ohonom ni, ond rydym ni'n gadarn yn ein trafodaethau.
Llywydd, roedd y memorandwm a osodwyd gerbron y Senedd, yn ein barn ni, wedi ei ddrafftio'n wael. Roedd y Bil a gyflwynwyd yn wreiddiol i Senedd y DU, yn wir, yn Fil ar gyfer Lloegr yn unig, ac rydym ar ddeall y gwnaeth y Gweinidog gais i Lywodraeth y DU, a gofyn i berthnasedd y Bil gael ei ymestyn i Gymru. Nawr, i ni, y ffaith allweddol yw nad yw hyn wedi ei gynnwys yn y memorandwm esboniadol. Dywedodd y Gweinidog wrthym mai'r rheswm am hyn oedd ei bod yn wybodaeth gefndir ac, yn sgil hynny, nid oedd angen ei chynnwys, ond fel pwyllgor, Gweinidog, rydym yn anghytuno, yn barchus ond yn gryf iawn, oherwydd er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau gan y Llywodraeth, yn enwedig mewn agweddau fel hyn lle mae gennym ni ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr, mae yn bwysig. Mae'n fater perthnasol i'w dynnu i sylw'r Senedd yn rhan o'i hystyriaeth ar fater cydsyniad. Ac o dan amgylchiadau o'r fath lle gallai'r amserlenni atal pwyllgorau'r Senedd rhag craffu'n effeithiol, gofynnir i'r Senedd ystyried a phleidleisio heb dderbyn yr holl ffeithiau yn llawn. Nid ydym yn credu bod amgylchiadau o'r fath yn dderbyniol, a hoffem weld gwelliant yn hyn, fel bod y memorandwm esboniadol ar hyn neu ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol eraill a gyflwynir yn fwy cyflawn a chyfan.
Fe wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog egluro i Aelodau'r Senedd sut, pryd, a pham y cyflwynwyd y cais i'r Bil i Loegr yn unig gael ei ddiwygio fel bod ei berthnasedd yn cael ei ymestyn i Gymru. Rydym yn nodi'r esboniad yn y sylwadau agoriadol, ond unwaith eto rydym yn credu y gallai fod mwy o eglurder, esboniad llawnach, er mwyn i Aelodau'r Senedd yn y fan yma allu ystyried hyn, nid ein pwyllgor ni yn unig.
Nawr, ar yr adeg hon hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith nad yw'r Gweinidog wedi ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad. Rydym yn cydnabod bod y Gweinidog wedi anfon llythyr at yr holl Aelodau ddoe, a oedd yn wir yn mynd i'r afael â dau argymhelliad penodol yn ein hadroddiad. Fodd bynnag, Gweinidog, mae'n rhaid i'n pwyllgor eich atgoffa yn garedig nad yw llythyr gan y Gweinidog yn ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru i adroddiad un o bwyllgorau'r Senedd.
Felly, o ran rhesymau'r Gweinidog dros wneud darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil, mae gennym ni ddau brif bryder. Yn gyntaf, mae'r memorandwm yn nodi y byddai'r Bil, ac rwy'n dyfynnu,
'yn sicrhau bod trin apeliadau yng Nghymru yn cyd-fynd â'r hyn a wneir yn Lloegr'.
Yn ein barn ni, fel pwyllgor, mae'n ddigon posibl y bydd y rhesymu hwn yn awgrymu mai'r sefyllfa ar gyfer Lloegr yw'r norm a'r sefyllfa ddiofyn. Rydym ni'n credu y dylai'r egwyddor arweiniol fod yn ateb sy'n diwallu anghenion y bobl yng Nghymru y mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnyn nhw, a byddem yn hapus i glywed gan y Gweinidog nad dyma fwriad Llywodraeth Cymru, boed yn ymhlyg nac yn fwy eglur. Yn ail, er ein bod yn cydnabod barn y Gweinidog, drwy wneud darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil, mewn dyfyniadau, byddai
'trethdalwyr Cymru yn cael eu trin mewn modd cyson', nid yw'n glir a fyddai'r Gweinidog, ac a ddylai hi, wneud yr un ddarpariaeth yn union ar gyfer trethdalwyr Cymru drwy Fil Cymru o gofio nad yw darpariaethau o'r fath wedi eu profi gyda'r rhanddeiliaid hyn.
Hoffwn i drafod yn fyr y rheoliadau y soniais amdanyn nhw ar ddechrau fy nghyfraniad, yn enwedig gan eu bod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol ac na fyddan nhw yn naturiol yn cael eu cyflwyno gerbron y Siambr hon. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gytuno i'n hargymhelliad i'r rheoliadau hyn gael eu crybwyll heddiw. Er nad oes sôn amdano yn y memorandwm, roeddem yn ymwybodol o ddatganiad a gyhoeddodd y Gweinidog fis Gorffennaf pan ddywedodd y byddai rheoliadau'n dod i law a fydd yn cael effaith debyg i'r darpariaethau sydd i'w cynnwys ym Mil y DU hyd nes y daw'r Bil yn gyfraith. Mae hynny'n eithaf clir. Ar 19 Hydref, fe wnaethom ni ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn ble oedden nhw. Nawr, yn y diwedd, gosodwyd y rheoliadau hyn gerbron y Senedd am 9.00 a.m. ar 1 Tachwedd a daethon nhw i rym am 6.00 p.m. ar yr un diwrnod. Nawr, mae hynny'n enghraifft eithafol braidd o dorri'r rheol 21 diwrnod, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru, rydym ni ar ddeall, yn gwybod ei bod yn dymuno gwneud y rheoliadau hyn fwy na thri mis cyn hynny.
Fe wnaethom ni ysgrifennu ar wahân at y Gweinidog ar y rheoliadau hyn, ac fe wnaeth y Gweinidog ymateb dros y penwythnos, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny. Fodd bynnag, Gweinidog, byddwn i'n dweud yn syml fod y pwyllgor o'r farn nad yw nodi ein pryderon yn ymateb cwbl foddhaol; byddem ni wedi hoffi cael esboniad llawnach, a fyddai, yn ein barn ni, wedi bod yn fwy priodol a defnyddiol. Mae llythyr y Gweinidog atom hefyd yn tynnu sylw at rai materion eraill y byddwn o bosibl yn eu trafod ymhellach gyda hi.
Llywydd, rwy'n ymddiheuro am fynd ychydig dros yr amser, ond yn olaf, o ran gweithio rhynglywodraethol, dywedodd y Gweinidog wrthym fod y Bil wedi ei gyflwyno i Senedd y DU heb drafodaeth ymlaen llaw gyda Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylid cynnwys darpariaethau ar gyfer Cymru. Mae hyn yn peri pryder mawr ynddo'i hun. Mae'n codi pwynt pwysig. Gan fod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod y mater hwn wedi ei ddatganoli'n llawn, nid yw'n glir a yw'r Gweinidog yn awgrymu y dylai Llywodraeth y DU ymgynghori â Llywodraeth Cymru fel mater o drefn i weld a yw'n dymuno cael darpariaethau deddfwriaethol mewn Bil yn y DU. Byddai sefyllfa o'r fath, ym marn ein pwyllgor, yn anfoddhaol. Diolch, Llywydd.
Gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr gyda sylwadau Cadeirydd y pwyllgor? A diolch yn fawr iddo ef a'r tîm clercio am yr holl waith maen nhw'n ei wneud. Gaf i hefyd ddweud bod hyn yn gonsýrn nid yn unig i'ch adran chi, Weinidog, ond i nifer o adrannau'r Llywodraeth? Ac mae consýrn mawr gennyf i ac aelodau'r pwyllgor ynglŷn â'r broses LCM a hynny'n ein tanseilio ni fel sefydliad yma yn y Senedd. Gaf i ddechrau hefyd drwy adleisio sylwadau'r Cadeirydd ei fod yn siomedig ein bod ni ddim wedi cael ymateb ffurfiol i adroddiad y pwyllgor? Dylai hyn fod wedi digwydd cyn heddiw, a dwi'n gobeithio y cawn ni ymateb ffurfiol maes o law.
Ond, wrth i gymaint o LCMs ymddangos o flaen y chweched Senedd, nid yw peidio ymateb yn ffurfiol yn gwneud dim byd i hyrwyddo craffu go iawn yn y lle hwn. Rwy'n wirioneddol poeni bod gormod o LCMs yn cael eu pasio heb ystyriaeth ddigonol o'r effaith maen nhw'n ei gael ar y setliad datganoli, a thrwy hynny, ar y sefydliad yma. Yn sicr, ni ddylid disgwyl i Aelodau bleidleisio ar LCM heb i un o'r pwyllgorau sy'n craffu ar y Bil dderbyn ymateb llawn i'w adroddiad.
Mae'r pwyllgor wedi gofyn cyfres o gwestiynau pwysig, nid i fod yn lletchwith, Weinidog, nid i ofyn cwestiynau er mwyn gofyn cwestiynau, ond oherwydd mai dyna swyddogaeth y pwyllgor, a dyletswydd y Gweinidog yw ateb y cwestiynau hynny, yn enwedig wrth ddefnyddio'r system cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n osgoi craffu llawn gan y Senedd.
Mae hanes y Bil, fel y soniodd Cadeirydd y pwyllgor, yn ddiddorol a dweud y lleiaf. Pan gafodd y Bil ei gyflwyno am y tro cyntaf, roedd yn berthnasol i Loegr yn unig. Gofynnodd y Gweinidog i Lywodraeth y DU ymestyn y Bil i Gymru—ffaith, fel y dywedodd y Cadeirydd, nad oes sôn amdano yn y memorandwm. Nawr, gwnaeth Llywodraeth y DU gydnabod bod y mater hwn wedi ei ddatganoli'n llawn. Ond, mae Llywodraeth Cymru yn dweud, fel beirniadaeth, nad oedd Llywodraeth y DU wedi ymgynghori â nhw cyn cyflwyno'r Bil. Rwy'n siŵr nad ydych yn bwriadu hyn, ond mae'n ymddangos bod hyn, Weinidog, yn awgrymu y dylai Llywodraeth y DU ofyn i Lywodraeth Cymru fel mater o drefn cyn cyflwyno Bil sy'n ymestyn i Loegr yn unig, sydd o fewn pwerau datganoledig Cymru. Mae'r dull hwn yn gwbl anghyson â'r hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i ni—y canllawiau ynghylch pryd y dylid defnyddio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Mewn gwirionedd, mae'n gwbl anghyson â datganoli ei hun.
Pam fod disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymgynghori â Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno Bil sy'n ymwneud â Lloegr yn unig, mewn maes sy'n ddatganoledig i Gymru? Rôl Senedd Cymru yw pasio Deddfau mewn meysydd datganoledig. Nid rôl Llywodraeth San Steffan yw ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch a ydyn nhw am gynnwys rhywbeth mewn Bil yn San Steffan.
Mae sylwadau'r Gweinidog am y Bil yn cyd-fynd â Lloegr yn tanseilio datganoli ymhellach drwy awgrymu, fel y soniodd y Cadeirydd, mai dilyn Lloegr yw'r norm. Gyda Llywodraeth San Steffan yn arfer ei hundebaeth gyhyrol, a ni yma yn clywed, yn gwbl gywir, dro ar ôl tro, gan Weinidogion Cymru am yr effaith y mae Llywodraeth San Steffan yn ei chael ar y setliad datganoli, ni allaf ddeall y dull hwnnw gan Lywodraeth Cymru. Enillodd y Llywodraeth hon, Llywodraeth Cymru, etholiad Senedd drwy ddangos i'r cyhoedd yng Nghymru nad dilyn Lloegr oedd y norm, ac y gellir gwneud pethau'n well drwy wneud pethau'n wahanol yng Nghymru.
Mae darpariaethau Cymreig wedi'u hychwanegu i'r Bil yma heb unrhyw gyfle am graffu go iawn yn y lle hwn. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd y Bil yn ddwyieithog, na fydd yn rhan o gyfraith Cymru—a thrwy hynny, yn ei wneud yn llai hygyrch ac yn cymhlethu y setliad datganoledig ymhellach. Mae hyn hefyd yn mynd yn erbyn egwyddorion y Llywodraeth.
Yn ogystal â hyn, mae'r rheoliad dros dro a osodwyd ar 1 Tachwedd ac a ddaeth i rym yr un diwrnod—. Fel y dywedodd y Cadeirydd, rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi bod angen torri'r rheol 21 diwrnod. Ond, mae yna dorri rheolau ac mae yna dorri rheolau—cafodd ei osod am 9 a.m. a'i orfodi erbyn 6 p.m. Cafodd hyn ei wneud dros saith mis ar ôl i'r rheoliad gael ei gyflwyno yn Lloegr. Nid yw hyn yn ddeddfu da, Weinidog. Gallwn ni wneud yn well yma yng Nghymru. Mae'n rhaid i ni wneud yn well yma yng Nghymru.
Wrth hyrwyddo datblygiad y lle hwn i dderbyn rhagor o bwerau, un o'r dadleuon cryfaf y gallwn eu rhoi yw ein bod ni'n gallu gwneud pethau'n well yma yng Nghymru nag sy'n digwydd yn San Steffan. Nid yw hyn yn arfer da wrth ddrafftio cyfraith yng Nghymru. Ac am y rhesymau hyn, ni fyddwn ni, fel Plaid Cymru, yn pleidleisio o blaid y cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddechrau drwy gywiro'r Cadeirydd ac aelod y pwyllgor. Fe wnes i ymateb i ohebiaeth y pwyllgor, dyddiedig 16 Tachwedd, â llythyr ar 20 Tachwedd. Fe gawsom ni gadarnhad o'r ffaith bod y pwyllgor wedi'i dderbyn hefyd, felly nid wyf yn siŵr sut nad yw hynny wedi cyrraedd aelodau'r pwyllgor.FootnoteLink
Ond, er eglurder, fe wnes i ddweud yn ysgrifenedig, er bod polisi ardrethi annomestig wedi ei ddatganoli, fod elfennau o'r system ardrethu sydd, yn ymarferol, yn gweithredu ledled Cymru a Lloegr. Mae prisio ac, yn ei dro, prosesu apeliadau yn y lle cyntaf, yn dod o dan y categoreiddio hwn, ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw'r corff sy'n gyfrifol am y materion hynny ledled Cymru a Lloegr.
Bwriad Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r mater hwn oedd sicrhau dull cydweithredol o weithredu â dull Llywodraeth y DU. Rydym ni wedi galw'n aml am gyfathrebu a chydweithredu wrth ddod i gonsensws ar ddull addas. Yn anffodus, nid yw'r dull cydlynol hwn wedi bod yn bosibl, ac nid oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld—fel yr ydym ni wedi ei drafod—fwriadau Llywodraeth y DU nes bod cyhoeddiadau wedi eu gwneud. Yn ogystal â hyn, mae rhannu data perthnasol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi bod yn gyfyngedig, gan effeithio'n andwyol ar ddatblygu polisi priodol ac amserol i Gymru.
Mae polisi Cymru ar faterion datganoledig wedi ei bennu yng Nghymru, er bod cydnabyddiaeth hefyd fod natur gydgysylltiedig rhai materion polisi a gweithredol ledled Cymru a Lloegr yn golygu, er mwyn cael sicrwydd, ei bod yn well mabwysiadu dull cydgysylltiedig weithiau, ac, yn yr achos hwn, o ystyried yr effaith ar fusnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru a Lloegr, a'r ffaith bod cymorth busnes dilynol yn gysylltiedig â phasio'r Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd), mae dull gweithredu wedi ei alinio yn galluogi defnyddio ysgogiadau ariannol sydd, i raddau llai, o fewn arfau datganoledig Llywodraeth Cymru mewn modd gwell. Felly, mae hynny'n crynhoi'r hyn a ddywedais wrth y pwyllgor dros y penwythnos, a wnaeth ymateb i bryderon y pwyllgor, felly efallai y byddai'n well codi hynny gyda chlerc y pwyllgor.
Ond hoffwn i orffen drwy ddweud bod y system ardrethi annomestig yn darparu refeniw hanfodol ar gyfer ariannu gwasanaethau llywodraeth leol, ac mae eglurder ynghylch y system apelio yn rhoi sicrwydd ar gyfer cyllid cyhoeddus a thalwyr ardrethi. Ac rydym wedi ceisio gwrthbwyso effeithiau negyddol y pandemig drwy ein pecyn cymorth busnes, a bydd amodau'r farchnad sy'n ymwneud â'r apeliadau hyn yn cael eu hystyried yn rhan—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Gweinidog, gan Huw Irranca-Davies?
Gwnaf.
—fel rhan o ailbrisio 2023.
Llywydd, diolch yn fawr iawn. Ymyriad byr, Gweinidog. Byddwn yn gwirio'r cofnodion gohebiaeth a pha un a yw'r cwestiynau wedi eu hateb ai peidio, a byddwn yn cysylltu â chi. Os yw'n gamgymeriad ar ein rhan ni, byddwn yn derbyn yr ergyd heb gwyno, ond rydym ni'n awyddus i wirio hynny a dod yn ôl fel bod y cofnod yn gywir. Ond rydym yn cymryd y pwyntiau y mae'r Gweinidog wedi eu gwneud, a, Llywydd, er mwyn cywirdeb y cofnod yn Siambr y Senedd hon, byddwn yn dod yn ôl os bydd angen i ni gywiro unrhyw beth.
Iawn. Y Gweinidog i barhau.
Felly, hoffwn i gloi, Llywydd, drwy ymrwymo i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus wrth edrych ar sut i ddiwygio'r system ardrethi annomestig yma yng Nghymru. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Bach yn hwyr, ond fe gyrhaeddodd jest mewn pryd. Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.