Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Mae darpariaethau Cymreig wedi'u hychwanegu i'r Bil yma heb unrhyw gyfle am graffu go iawn yn y lle hwn. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd y Bil yn ddwyieithog, na fydd yn rhan o gyfraith Cymru—a thrwy hynny, yn ei wneud yn llai hygyrch ac yn cymhlethu y setliad datganoledig ymhellach. Mae hyn hefyd yn mynd yn erbyn egwyddorion y Llywodraeth.