10. Dadl Fer: Polisi cyffuriau yng Nghymru a'r DU: Dechrau sgwrs genedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:09, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jayne am roi ychydig o amser imi yn y ddadl fer hon heno. Rwyf am adleisio'r pwyntiau a wnaeth mor huawdl heno, oherwydd credaf yn sylfaenol ei bod yn bryd cael sgwrs genedlaethol ar gamddefnyddio sylweddau. Fel y dywedais yn ystod fy nadl fer yn gynharach y tymor hwn, nid yw'r status quo yn gweithio. Mae'n gwneud cam â theuluoedd, mae'n gwneud cam â chymunedau ac mae'n achosi niwed na ellir ei ddadwneud. Rwy'n falch ein bod yn cael sgwrs fel hon yma yn y Senedd. Rwy'n ysu am y dyddiau pan allwn wneud penderfyniadau ar bolisi cyfiawnder yn y lle hwn. Hyd nes y daw'r diwrnod hwnnw, rwyf am inni barhau i ddylanwadu ar San Steffan gymaint ag y gallwn i gyrraedd system gyfiawnder sydd â mwy o dosturi a chosbau llai didostur. I'r perwyl hwnnw, rwy'n falch fod Jayne wedi cytuno i ymuno â'r grŵp trawsbleidiol, a byddaf yn ei lansio yn y flwyddyn newydd. Edrychaf ymlaen at gydweithio mwy ar hyn drwy glywed profiadau pobl ar lawr gwlad sy'n ymdrin â chanlyniadau'r status quo yn ddyddiol. Rwy'n gwybod y gallwn wella ein dealltwriaeth o beth sydd angen ei newid a pham y mae angen newid. Diolch yn fawr.