– Senedd Cymru am 5:53 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Fe fyddwn ni, felly, yn symud ymlaen i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Jayne Bryant, ac fe wnaf i symud ymlaen yn syth felly i Jayne Bryant i fedru cyflwyno'i dadl fer. Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud i James Evans a Peredur Owen Griffiths yn y ddadl hon.
Mae'n 50 mlynedd eleni ers pasio Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn Senedd y DU. Er bod y polisi hwnnw wedi'i lunio i atal defnyddio cyffuriau a lleihau niwed, rydym wedi gweld cynnydd eithriadol yn y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, caethiwed a marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ledled y DU. Ar yr un pryd, mae cyffuriau'n cryfhau, mae grym gangiau troseddol yn cynyddu, ac mae'r trais sy'n gysylltiedig â chyffuriau ar gynnydd. Yn fwyaf pryderus o bosibl, caiff miloedd o blant a phobl ifanc eu hecsbloetio drwy linellau cyffuriau ym mhob cwr o'r wlad.
Mae'r sefyllfa heddiw yn arwydd o fethiant difrifol iawn y cyfreithiau cyffuriau, ond mae trafodaeth fanwl a difrifol ar ddiwygio yn dal i fod yn bell iawn i ffwrdd. Mae angen i hyn newid ar frys. Rhaid i ni yma agor trafodaeth ar yr hyn a aeth o'i le a sut y gallem wneud pethau'n wahanol: yn wahanol drwy newid y modd y meddyliwn am gyffuriau a'r modd rydym yn eu trafod; yn wahanol drwy ystyried yr amodau sy'n benodol i Gymru, a pha ddylanwad sydd gennym fel Senedd; yn wahanol drwy edrych tuag allan, dysgu oddi wrth ein ffrindiau a'n cymdogion, gan gymryd ysbrydoliaeth o'r hyn y mae'r gymuned ryngwladol yn ei wneud i fynd i'r afael â phroblem ddifrifol.
Mewn cyfnod pan fo'r ymadrodd 'gwrando ar y wyddoniaeth' wedi golygu mwy nag ar unrhyw adeg mewn hanes, efallai ei bod yn briodol inni edrych eto ar ba ymchwil wyddonol sy'n flaenllaw. Er enghraifft, mae ymchwil gyfoes arloesol ar y gweill i'r defnydd o gyffuriau seicedelig mewn meddygaeth. Mae gwaith a wneir ar eu defnydd i drin cyflyrau iechyd meddwl hirsefydlog ac anhwylder straen wedi trawma yn arbennig o galonogol. Mae eraill yn canolbwyntio eu hymchwil ar sylweddau mwy adnabyddus, megis canabis meddyginiaethol.
Gwnaed canabis yn anghyfreithlon 100 mlynedd yn ôl, er ei fod wedi parhau i gael ei ddefnyddio fel cyffur presgripsiwn ym Mhrydain tan 1973. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall y rhai sy'n dioddef o'r mathau anoddaf eu trin o epilepsi weld nifer a dwyster y trawiadau y maent yn eu dioddef yn gostwng yn sylweddol os cânt eu trin â chynhyrchion sy'n deillio o'r canabis craidd CBD. Newidiodd cyfraith y DU yn 2018 i ganiatáu defnyddio canabis meddyginiaethol o dan amgylchiadau penodol, cyfyngedig. Roedd hwn yn gam ymlaen i'w groesawu, ond ers y newid, dim ond nifer fach o bresgripsiynau sydd wedi'u rhoi, ac mae llawer o deuluoedd yn parhau i fod mewn limbo. Mae'r dewis a roddwyd iddynt yn dorcalonnus: naill ai gwario miloedd i gael presgripsiynau anghyfreithlon neu fynd hebddo, gan adael anwyliaid mewn perygl o ddioddef effeithiau gwaethaf eu cyflwr. Nid yw hon yn sefyllfa y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno i ni ein hunain na'n teuluoedd a'n ffrindiau.
Mae'r pandemig wedi dysgu inni pa mor wych yw gwyddonwyr. Heb eu gallu i ddatrys problemau mewn ffordd arloesol a chyflym, byddem heb gael ein hymdrech frechu wych, a llawer o bethau eraill yn ogystal. Byddai'n werth inni fabwysiadu'r ymagwedd hon a'i chymhwyso i feysydd eraill. Oherwydd yn y maes hwn—polisi cyffuriau—mae'n rhwystredig fod y DU yn gynyddol ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd rydym yn ymwneud â hwy. Mae tystiolaeth yn y byd go iawn fod polisïau eraill yn gweithio, ac eto rydym yn parhau i gladdu ein pennau yn y tywod.
Yn Ewrop, mae Portiwgal wedi gosod esiampl gadarnhaol o'r hyn y gellir ei wneud pan fydd polisïau cyffuriau yn rhoi blaenoriaeth i iechyd yn hytrach na throseddoli. Ar droad y ganrif, roedd Portiwgal yn wynebu argyfwng, gan gynnwys lefelau uchel o haint HIV ymhlith defnyddwyr cyffuriau. Yn 2001, fe wnaeth Portiwgal ddad-droseddoli meddiant personol ar unrhyw gyffuriau fel rhan o ailgyfeirio polisi ehangach tuag at ddull a arweinir gan iechyd. Mae meddu ar gyffuriau at ddefnydd personol yn cael ei drin fel trosedd weinyddol, sy'n golygu na chaiff ei chosbi mwyach drwy garcharu ac nid yw'n arwain at gofnod troseddol a'r stigma sy'n gysylltiedig â hynny. Teimlwyd llawer o effeithiau'r diwygiadau ar unwaith. Gostyngodd nifer yr heintiau HIV newydd, marwolaethau cyffuriau a phoblogaeth y carchardai i gyd yn sydyn o fewn y degawd cyntaf. Mae'n rhaid cyfaddef bod yr ail ddegawd wedi gweld gwelliannau arafach. Fodd bynnag, mae Portiwgal mewn sefyllfa lawer gwell nag yn 2001, ac mae'r defnydd o gyffuriau a marwolaethau cyffuriau a gofnodwyd fel cyfran o'r boblogaeth gyffredinol yn llawer is na'r cyfartaledd Ewropeaidd, ac mae'r gyfran o boblogaeth eu carchardai a ddedfrydwyd am droseddau cyffuriau wedi gostwng o 40 y cant i 15 y cant.
Mae profiad Portiwgal yn wers y gellir ei chyflawni pan fo arloesi gyda pholisi ac ewyllys wleidyddol yn cyd-fynd mewn ymateb i argyfwng. O gymharu, dangosodd adroddiad blynyddol y DU ar gyffuriau yn 2019 y nifer fwyaf o achosion o ddefnyddio cyffuriau yn ystod y 10 mlynedd diwethaf ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. Nid yw'r dull presennol yn gweithio—mae hynny'n glir. Mae ein polisi dim goddefgarwch, y meddylfryd diddiwedd o fod mewn rhyfel parhaol yn erbyn cyffuriau, yn troseddoli ac yn eithrio rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed, ac mae'n gyrru pob masnach yn danddaearol, gan ysgogi cylch marwol o ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais, lladrata, a phob math arall o droseddu, yn amlach na pheidio yn ein cymunedau tlotaf a mwyaf difreintiedig.
Caiff plant eu targedu gan gangiau troseddol i weithredu fel gwerthwyr, caiff cartrefi oedolion sy'n agored i niwed eu meddiannu ar gyfer gwerthu cyffuriau, a gall paraffernalia cyffuriau fod yn falltod drwy ardaloedd cyfan wrth i ddefnyddwyr geisio cymryd cyffuriau allan o'r golwg yng nghysgod drysau ac mewn strydoedd cefn. Bydd pobl sy'n byw mewn cymdogaethau lle caiff cyffuriau eu gwerthu yn adnabod yr ofn a ddaw yn sgil marchnadoedd cyffuriau troseddol. Yn syml iawn, maent yn haeddu gwell.
Mae prosiect Kaleidoscope, sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i, wedi bod yn gweithredu yn y DU ers 1968. Clinig cyffuriau methadon elusennol ydyw sy'n darparu help a chlinigau cymorth i rai sy'n camddefnyddio alcohol, yn camddefnyddio cyffuriau neu'n gaeth i gyffuriau. Wrth siarad â'r cyfarwyddwr, Martin Blakebrough, ar y pwnc hwn, roedd ganddo hyn i'w ddweud: 'Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae gennym bolisi o garcharu pobl sydd â phroblemau cyffuriau yn hytrach na chynnig triniaeth gynaliadwy iddynt. Mae lle mewn carchar yn ddrutach o lawer na lle adsefydlu preswyl. Mae arnom angen polisi sy'n cefnogi, nid yn cosbi, pobl lle bynnag y bo modd. Mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr cyffuriau sydd â phroblemau caethiwed sylweddol wedi dioddef profiad niweidiol yn ystod plentyndod, gydag astudiaeth ddiweddar yn dangos bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi effeithio ar 84 y cant o ddefnyddwyr cyffuriau. Ac eto y diffyg cymorth sydd wedi arwain at eu problemau. Nid yw'r rhyfel yn erbyn cyffuriau wedi bod yn rhyfel yn erbyn y sylwedd, ond yn hytrach yn erbyn unigolion.'
Yn ogystal, mae Richard Lewis, a benodwyd yn ddiweddar yn brif gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, hefyd wedi bod yn dadlau bod dull gweithredu presennol y DU yn methu. Y llynedd, yn anffodus, collwyd dros 4,500 o bobl yng Nghymru a Lloegr oherwydd marwolaethau'n gysylltiedig â chyffuriau. Ar yr ystadegau hyn, dywed y prif gwnstabl Lewis:
'Byddai wedi bod modd atal y mwyafrif llethol o'r marwolaethau hynny'n llwyr. Mewn 21 mlynedd o wasanaeth i'r heddlu, deuthum yn araf i'r casgliad, efallai'n rhy araf, fod fframio'r argyfwng hwn fel problem cyfiawnder troseddol nid yn unig yn ddi-fudd, ond yn wrthgynhyrchiol hefyd. Mae'r epidemig cenedlaethol hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus.'
Fel Portiwgal ac elusennau fel Kaleidoscope, mae'r prif gwnstabl Lewis yn argymell ymyrraeth y wladwriaeth ym mywydau pobl sy'n gaeth i gyffuriau i geisio eu trin nid fel troseddwyr, ond fel cleifion. Un ffordd o helpu yw i wasanaethau trin cyffuriau, megis canolfannau triniaeth â chymorth heroin, gael mwy o fuddsoddiad a bod mwy ohonynt ar gael. Nid y prif gwnstabl Lewis yw'r unig lais yn yr heddlu sy'n ailystyried ein polisi cyffuriau. Ac mae'r ffaith nad yw ei sylwadau wedi cael eu hystyried yn rhai eithriadol yn cadarnhau hyn.
Dros y blynyddoedd, mae meddylfryd yr heddlu wedi newid yn araf. Mae llawer o heddluoedd wedi nodi'n agored eu bod yn amharod i dargedu tyfwyr a defnyddwyr canabis at ddibenion hamdden, gan fod ganddynt broblemau mwy i ymdrin â hwy. Mae hyn er bod y gyfraith yn glir fod canabis yn parhau'n anghyfreithlon fel sylwedd categori B, sy'n cario dedfryd am feddiant o hyd at bum mlynedd yn y carchar, gyda dirwy ddigyfyngiad. Canabis yw'r sylwedd anghyfreithlon mwyaf cyffredin yn y DU, ac ni fydd hynny'n syndod i neb. Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi arogli ei arogl unigryw ar draws strydoedd a pharciau'r wlad. Bob tro y byddwch chi'n gwneud hynny, rydych chi'n gwybod ei fod wedi cael ei brynu neu ei dyfu'n anghyfreithlon. Nid oes raid iddi fod fel hyn.
Ar draws yr Iwerydd, mae Canada a llawer o daleithiau'r Unol Daleithiau bellach yn arwain y byd wrth hyrwyddo dull newydd o ymdrin â chanabis, gan gamu oddi wrth ddad-droseddoli'n unig a chroesawu rheoleiddio llawn yn enw'r Llywodraeth yn lle hynny. Yn 2012, dechreuodd taleithiau America, dan arweiniad Colorado, gyflwyno diwygiadau canabis dramatig, ac ym mis Hydref 2018, dechreuodd Canada reoleiddio canabis yn gyfreithlon at ddefnydd anfeddygol i oedolion. Yng Nghanada, y taleithiau a'r tiriogaethau a oedd yn gyfrifol am benderfynu sut y caiff canabis ei ddosbarthu a'i werthu. Drwy ei model datganoli cryf, gall pob talaith yng Nghanada osod cyfyngiad ychwanegol hefyd. Roedd tair nod i Ddeddf canabis arloesol Llywodraeth Canada: diogelu iechyd a diogelwch y cyhoedd, diogelu pobl ifanc rhag effaith negyddol canabis, a chadw elw rhag gangiau troseddol.
Rwyf eisoes wedi siarad am yr effeithiau trawiadol ar iechyd y cyhoedd a welwyd ym Mhortiwgal, felly rwyf am ganolbwyntio ar y trydydd nod: yr elfen economaidd o gynnal sgwrs genedlaethol ar ddiwygio cyffuriau yn y DU a Chymru. Wrth symud tuag at gyfreithloni a rheoleiddio gan y Llywodraeth, mae Canada wedi mynd ag elw sylweddol o bocedi troseddwyr i'r pwrs cyhoeddus. Yn y flwyddyn gyntaf ar ôl ei gyfreithloni, tyfodd y farchnad manwerthu canabis gyfreithlon yng Nghanada i fod yn werth CA$908 miliwn—dros £0.5 biliwn. Mewn llai na blwyddyn, creodd Canada ddiwydiant gwerth biliwn o ddoleri gan arwain at ddwy effaith, sef cynorthwyo economïau lleol tra'n lleihau ymddygiad troseddol. Mae llywodraeth ffederal a thaleithiol wedi gweld budd economaidd. Dangosodd taleithiau sydd ar flaen y gad yn y newid hwn yn yr Unol Daleithiau fod y farchnad yn aeddfedu, mae refeniw treth yn cynyddu ac mae masnach canabis a reoleiddir yn gyfreithlon yn trechu gweithgarwch anghyfreithlon. Nid yw hyn yn golygu, wrth gwrs, fod y farchnad canabis anghyfreithlon wedi diflannu. Yng Nghaliffornia, er enghraifft, mae'r farchnad ddu yn dal i fod yn fwy na'r un gyfreithlon. Mae gwersi i'w dysgu yma ynghylch gweithredu. Mae'n dal i fod yn ddyddiau cynnar ar y newid polisi yng Nghanada, ond mae'r cyflawniad yn galonogol. Ond mae o fudd i'r DU fod gennym gymaint o wersi i'w dysgu.
Yn yr 50 mlynedd ers i Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 ddod i rym, rydym ni fel gwlad wedi methu symud ymlaen. Mewn rhai meysydd deddfwriaethol, mae Prydain wedi symud gyda'r oes, ac eto o dan arweiniad pob plaid, mae San Steffan wedi cynnal safbwynt ar gyffuriau sy'n tarddu o'r 1970au. O ganlyniad, rydym i gyd wedi gweld effaith negyddol y cynnydd mewn camddefnyddio sylweddau; rydym wedi rhoi adnoddau tuag at fynd i'r afael â gelyn sy'n gwrthod cael ei drechu. Rydym wedi gyrru miloedd i mewn i system cyfiawnder troseddol sydd nid yn unig yn methu adsefydlu ond sydd wedi cael trafferth ymdopi â mwyfwy o droseddolrwydd. Serch hynny, mae yna lwybr arall. Mae gwledydd ledled y byd yn dangos i ni nad oes rheswm i'r Senedd hon beidio ag agor sgwrs dros Gymru. Mae iechyd y cyhoedd a'r economi o fewn ein cymhwysedd.
Mae'n wirionedd drist fod San Steffan yn gwrthod agor y sgwrs ar gyffuriau yn y DU. Nid bai'r weinyddiaeth bresennol yn unig yw hyn, ond methiant hirsefydlog pob Llywodraeth. Efallai nad oes gan Gymru allu deddfwriaethol llawn eto, ond fel aelod o'r undeb hwn, rhaid inni ddefnyddio ein llais. Tra'n bod yn fframio'r ddadl fel un sy'n ymwneud â throseddolrwydd yn unig, byddwn yn parhau â'r un agwedd ymosodol, ddi-fudd. I'r perwyl hwnnw, mae'n ddyletswydd arnom i newid y ffordd y meddyliwn, i ystyried a yw effeithiau gwirioneddol diwygio cyffuriau yn dwyn ffrwyth, i ddysgu gan eraill a wynebu realiti ein sefyllfa. Nid fi yw'r Aelod cyntaf o'r Senedd i fynegi'r problemau hyn, a hoffwn gydnabod gwaith Peredur Owen Griffiths a'i ymdrechion i sefydlu grŵp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau.
Nid fi ychwaith yw cynrychiolydd cyntaf Gorllewin Casnewydd i hyrwyddo'r safbwynt hwn, a gobeithio nad fi fydd yr olaf. Roedd fy nghyfaill agos, Paul Flynn AS, o flaen ei amser gyda'r ymgyrch hon. Roedd yn ddadleuwr dewr a di-baid dros ddiwygio cyffuriau cyn i hynny ddod yn boblogaidd, ac fe heriodd Weinidogion, Llafur a Cheidwadol, i wneud yn well. Hoffwn orffen drwy ddyfynnu Paul, gyda chyfraniad a wnaeth i Dŷ'r Cyffredin yn 2008. Yn ei ffordd hyddysg arferol, dywedodd Paul:
'Rydym yn colli rhywbeth ac rydym yn methu. Mae angen inni gyrraedd y pwynt lle rydym yn cydnabod, er gwaethaf ein holl hunanfodlonrwydd fel gwleidyddion—ein hawydd i gael penawdau da er mwyn cael ein hailethol—ein bod yn gwneud cam â chenhedlaeth y mae eu bywydau'n cael eu dinistrio gan gyffuriau. Dyna'r wers heddiw.'
Diolch yn fawr.
Teitl y ddadl bwysig hon yw 'polisi cyffuriau', a chredaf fod yr amser yn iawn i ni edrych yn fanwl yn awr ar bolisi cyffuriau yng Nghymru. Gadewch imi fod yn glir: hoffwn weld gwlad lle caiff y defnydd o gyffuriau ei ddileu, ond yn anffodus, nid wyf yn credu y bydd modd cyflawni hynny. Mae rhai pobl yn cymryd cyffuriau am nifer o resymau: er mwyn arbrofi, at ddibenion hamdden, ac i rai pobl, i wella ansawdd eu bywydau. Gwelais yn uniongyrchol sut y mae olew canabis wedi helpu rhywun sy'n byw gydag MS i fyw bywyd di-boen. Mae'r system cyfiawnder troseddol bresennol yn trin pawb sy'n defnyddio cyffuriau fel troseddwyr, ond mewn gwirionedd, mae rhai pobl yn eu defnyddio er mwyn cael gwared ar boen trawma difrifol yn eu bywyd, i roi eiliad fach o ryddhad iddynt o'u dioddefaint. Nid troseddwyr yw pob un sy'n defnyddio cyffuriau, ond unigolion sydd angen help a chefnogaeth i ymdrin ag achos sylfaenol eu poen. Y llynedd, bu farw 2,883 o bobl o achosion yn gysylltiedig â chyffuriau. Faint yn rhagor o farwolaethau y bydd yn ei gymryd cyn i'r ddwy Lywodraeth, yma ac yn San Steffan, wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r broblem hon? Diolch, Lywydd.
Diolch i Jayne am roi ychydig o amser imi yn y ddadl fer hon heno. Rwyf am adleisio'r pwyntiau a wnaeth mor huawdl heno, oherwydd credaf yn sylfaenol ei bod yn bryd cael sgwrs genedlaethol ar gamddefnyddio sylweddau. Fel y dywedais yn ystod fy nadl fer yn gynharach y tymor hwn, nid yw'r status quo yn gweithio. Mae'n gwneud cam â theuluoedd, mae'n gwneud cam â chymunedau ac mae'n achosi niwed na ellir ei ddadwneud. Rwy'n falch ein bod yn cael sgwrs fel hon yma yn y Senedd. Rwy'n ysu am y dyddiau pan allwn wneud penderfyniadau ar bolisi cyfiawnder yn y lle hwn. Hyd nes y daw'r diwrnod hwnnw, rwyf am inni barhau i ddylanwadu ar San Steffan gymaint ag y gallwn i gyrraedd system gyfiawnder sydd â mwy o dosturi a chosbau llai didostur. I'r perwyl hwnnw, rwy'n falch fod Jayne wedi cytuno i ymuno â'r grŵp trawsbleidiol, a byddaf yn ei lansio yn y flwyddyn newydd. Edrychaf ymlaen at gydweithio mwy ar hyn drwy glywed profiadau pobl ar lawr gwlad sy'n ymdrin â chanlyniadau'r status quo yn ddyddiol. Rwy'n gwybod y gallwn wella ein dealltwriaeth o beth sydd angen ei newid a pham y mae angen newid. Diolch yn fawr.
Galwaf nawr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl—Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am y pwyntiau a wnaeth, a diolch hefyd i James Evans a Peredur Owen Griffiths am eu cyfraniadau. Er nad oes gan Gymru bwerau dros sawl agwedd ar ddeddfwriaeth cyffuriau a dosbarthu cyffuriau, mae mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn flaenoriaeth allweddol i mi, ac yn faes gwaith sy'n bwysig iawn yn fy mhortffolio. Gydag iechyd meddwl ac iechyd troseddwyr hefyd o fewn fy mhortffolio, byddaf yn ceisio gwneud gwahaniaeth ar draws y meysydd hyn sy'n dod gyda'i gilydd yn rhy aml, ochr yn ochr â chamddefnyddio sylweddau, i effeithio'n niweidiol ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Yn fy rôl fel Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, cyfarfûm â nifer o bobl a sefydliadau sy'n ymwneud â'r maes camddefnyddio sylweddau, ac mae lefel y gwaith a'r ymrwymiad sydd yn y maes a'r angerdd sydd gan lawer i weld diwygio wedi creu argraff fawr arnaf.
Mae camddefnyddio sylweddau yn broblem iechyd o bwys sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Yng Nghymru, mae ein polisi cyffuriau wedi'i wreiddio mewn dull o weithredu sy'n seiliedig ar leihau niwed, sy'n cydnabod camddefnydd o sylweddau fel problem iechyd a gofal cymdeithasol, yn hytrach nag un sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol yn unig. Yn hyn o beth, mae ein dull o weithredu yn wahanol iawn i'r dull o weithredu yn Lloegr, ac yn wir, dyma yw dull o weithredu yr holl weinyddiaethau datganoledig. Diwygiwyd ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019-22 mewn ymateb i COVID-19 i adlewyrchu'r gwaith sydd wedi'i wneud ac sy'n parhau i gael ei wneud o ganlyniad i'r pandemig. Cyhoeddwyd y cynllun diwygiedig ym mis Ionawr 2021. Nod cyffredinol y cynllun cyflawni o hyd yw sicrhau bod pobl Cymru'n ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau, ac i wybod ble y gallant gael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth. Mae ein byrddau cynllunio ardal a phartneriaid eraill yn parhau i weithio i gyflawni'r camau gweithredu o fewn y cynllun.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o ymrwymiad i'r maes hwn, ac rydym yn buddsoddi bron i £55 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau bob blwyddyn. Dyrennir dros £25 miliwn o hwn i'n byrddau cynllunio ardal camddefnyddio sylweddau, ac mae bron i £21 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru. Yn 2020-21 hefyd, gwnaethom sicrhau bod £4.8 miliwn arall ar gael i gefnogi ein hymateb i COVID-19. Roedd dros £3 miliwn ohono'n cefnogi gweithredu bwprenorffin chwistrelladwy hirhoedlog yn gyflym ar gyfer cyn-ddefnyddwyr heroin sy'n wynebu risg. Mae Cymru bellach ar flaen y gad gyda gweithredu'r driniaeth newydd hon ledled y DU, os nad y byd. Rydym nid yn unig wedi diogelu'r gyllideb camddefnyddio sylweddau, ond rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfle i gynyddu adnoddau yng Nghymru, yn wahanol i brofiad gwasanaethau camddefnyddio sylweddau mewn rhannau eraill o'r DU.
Ar y pwynt hwn, mae'n werth nodi bod adolygiad y Fonesig Carol Black o wasanaethau triniaeth yn Lloegr wedi cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Mae'n werth nodi hefyd fod Llywodraeth y DU yn dweud yn glir yn y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad na fyddai'n edrych ar ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, yn wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr, yma yng Nghymru rydym eisoes wrthi'n datblygu llawer o'i hargymhellion. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau wedi'i seilio'n gadarn ar ddull yn seiliedig ar iechyd a lleihau niwed. Rydym hefyd, fel y dywedais, wedi diogelu ac wedi neilltuo ein cyllid camddefnyddio sylweddau, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r maes tai ac ar draws iechyd meddwl i fynd i'r afael â her anghenion cymhleth sy'n cyd-ddigwydd. Cytunaf yn llwyr â sylw'r adolygiad fod camddefnyddio sylweddau yn gyflwr iechyd cronig sy'n galw am sylw hirdymor. Yng Nghymru, ein dull o weithredu o hyd yw lleihau niwed ac adeiladu cymunedau cryf ar gyfer gwella. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phroblemau trawma, gyda llawer ohono'n seiliedig ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r problemau iechyd meddwl a wynebir gan gynifer yn ein gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Yng Nghymru, rydym hefyd yn ymwybodol iawn fod niwed camddefnyddio sylweddau yn disgyn yn anghymesur ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig, gan ysgogi anghydraddoldebau iechyd i'r tlotaf a throseddoli'r rhai agored i niwed sydd angen cymorth a thriniaeth. Am y rheswm hwn, rhaid i fynd i'r afael â stigma ac edrych ar gamddefnyddio sylweddau fel mater iechyd barhau i fod yn ffocws i ni. Credaf yn gryf mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â niwed camddefnyddio sylweddau yw drwy gynorthwyo pobl i gael triniaeth, nid eu troseddoli.
Ym mis Hydref, mynychais ail gyfarfod i weinidogion y DU ar gyffuriau, gyda fy swyddogion cyfatebol yn y gweinyddiaethau datganoledig. Cynhaliwyd y cyfarfod gan y Gwir Anrhydeddus Kit Malthouse AS, Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a diben y cyfarfod oedd clywed gan nifer o siaradwyr arbenigol a rhoi cyfle i rannu arferion da, heriau a gwersi a ddysgwyd ar draws pob un o'r gweinyddiaethau. Hefyd, rhoddodd y cyfarfod gyfle i mi ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r agenda camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys ein pwyslais cryf ar leihau niwed a'r gwaith sy'n cael ei wneud drwy ein cynllun cyflawni. Yn y cyfarfod, croesawais ymrwymiad newydd Llywodraeth y DU i'r agenda hon a'r gwaith ar ddatblygu strategaeth gyffuriau newydd ar gyfer y DU. Fodd bynnag, gan nad yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli, pwysleisiais bwysigrwydd yr angen i gymryd rhan lawn mewn unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar Gymru, ac mae hyn yn rhywbeth y mae fy swyddogion mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref yn ei gylch.
Ar sail ein dull o weithredu sy'n seiliedig ar leihau niwed yma yng Nghymru, nid ydym yn credu y byddai troseddoli unigolion sy'n agored i niwed ymhellach yn effeithiol. Rydym yn aros i'r strategaeth hon gael ei chyhoeddi, ond credaf ar y pwynt hwn nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu newid eu safbwynt presennol o arwain hyn drwy ymateb cyfiawnder troseddol.
Rydym wedi ymgysylltu'n llawn â chydweithwyr o'r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU, sy'n rhoi cyfle i gydweithio a dysgu lle mae gennym nodau cyffredin i leihau niwed camddefnyddio sylweddau. Ym mae Abertawe, rydym wedi gweithio gyda phartneriaid lleol a'r Swyddfa Gartref, gan ddatblygu prosiect ADDER ochr yn ochr ag ardaloedd yn Lloegr. Prosiect gan y Swyddfa Gartref yw ADDER—caethiwed, dargyfeirio, tarfu, gorfodi ac adferiad—a gynlluniwyd i gefnogi dull system gyfan o fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, gan ddod â thriniaeth a phlismona at ei gilydd, gyda chymorth ar gyfer ymyriadau ar lefel leol a gwaith cenedlaethol wedi'i dargedu ar gyflenwi. Mae prosiect ADDER yn cynnwys gweithgareddau cydgysylltiedig ar gyfer gorfodi'r gyfraith, ynghyd â gweithgarwch dargyfeiriol estynedig a darparu triniaeth ac adferiad, ac mae'n canolbwyntio ar ardaloedd lle ceir lefelau uchel o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau.
Rydym yn gweld hwn fel cyfle i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gweithio gyda'r partneriaid cyfiawnder troseddol ar ymateb i gamddefnyddio sylweddau drwy driniaeth a thorri'r cylch i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n mynd i mewn ac allan o'r carchar. Mae'r dull o weithredu a nodir yn y prosiect ADDER yn cyd-fynd yn dda â gwaith Llywodraeth Cymru drwy'r byrddau cynllunio ardal, yn enwedig bwrdd cynllunio ardal bae Abertawe, lle bu nifer fawr o farwolaethau'n gysylltiedig â chyffuriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, rwyf wedi mynegi fy siom wrth Lywodraeth y DU nad yw bae Abertawe wedi elwa o gyllid ychwanegol Trysorlys EM ar gyfer iechyd y mae ardaloedd y prosiect ADDER yn Lloegr wedi'i gael.
Rhan allweddol o'n hagenda lleihau niwed yw ein menter naloxone genedlaethol, lle rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol. Datblygiad pwysig gyda naloxone yw'r gwaith a wnawn gyda'r heddlu i alluogi swyddogion i gario naloxone trwynol tra'u bod ar ddyletswydd. Rydym hefyd wedi ariannu cynllun peilot lle mae cyfoedion yn dosbarthu naloxone ar y strydoedd, a hefyd yn darparu cyngor ar leihau niwed sy'n rhoi pobl â phrofiad bywyd ar flaen ein gwaith, rhywbeth rwy'n ei groesawu'n fawr. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi arwain at ystyried efelychu'r model hwn ym mhob rhan o Gymru.
Wedi i Weinidogion o bob un o'r pedair gwlad gytuno bod angen adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol ar naloxone, rydym wedi ymgysylltu â chydweithwyr o'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban ar ddatblygu ymgynghoriad ar y cyd ar ehangu mynediad at naloxone. Daeth yr ymgynghoriad ledled y DU i ben ddiwedd mis Medi a gofynnai am farn ar ymestyn y gwasanaethau sy'n gallu darparu naloxone, rhywbeth a fyddai'n cefnogi ein dull o leihau niwed yng Nghymru. Mae fy swyddogion wrthi'n gweithio gyda chydweithwyr ar y camau nesaf a byddant yn ystyried effaith yr ymateb i'r ymgynghoriad mewn cyd-destun Cymreig.
Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon, gan fy mod yn teimlo'n angerddol ynglŷn â gwneud gwahaniaeth yn y maes hwn. Er nad yw'r holl bwerau deddfwriaethol gennym at ein defnydd, mae llawer y gallwn ei wneud i ddatblygu ymateb unigryw Gymreig i gamddefnyddio sylweddau. Rwy'n cydnabod sylwadau'r Aelod, ond fel y mae hi hefyd yn cydnabod, yn nwylo Llywodraeth y DU y mae'r pwerau hyn, ac mae'n bwysig i mi fel Gweinidog ganolbwyntio ar lle gallwn wneud gwahaniaeth. Ac fel y dywedais wrth ymateb i'r ddadl gan Peredur Owen Griffiths, byddwn yn hapus iawn i ymgysylltu â'i grŵp trawsbleidiol ar y materion pwysig a godwyd heno.
Byddwn yn parhau i ddatblygu ein hymrwymiadau yn y cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac yn parhau, wrth gwrs, i ymgysylltu â chydweithwyr o'r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU er mwyn gweithio gyda'n gilydd gyda'r nod o leihau'r niwed sy'n deillio o gamddefnyddio sylweddau. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog, a dyna ddod â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr i chi i gyd.