Gwneud Cymru'n Genedl Noddfa

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:06, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar ag Addysg Oedolion Cymru a ddywedodd wrthyf am y rhwystrau y gall ceiswyr lloches eu hwynebu wrth geisio manteisio ar gyfleoedd addysg, megis gallu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gael gafael ar ofal plant. Gwn fod un cam gweithredu yng nghynllun 'Cenedl Noddfa' yn ymrwymo i weithio tuag at newidiadau i'r lwfans cynhaliaeth addysg a'r gronfa ariannol wrth gefn i wneud ceiswyr lloches yn gymwys, a gall hyn ddileu'r rhwystrau hynny. Felly, a allwch chi ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn os gwelwch yn dda?