Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn hwnnw, ac rydych wedi nodi ymrwymiad yng nghynllun 'Cenedl Noddfa'. Nid yw'r ymrwymiad hwnnw wedi newid. Rydym wedi cael amgylchiadau heriol gyda'r pandemig, sydd wedi arwain at oedi wrth symud ymlaen gyda hynny, ond rydym yn mynd i dreialu cynllun newydd yn y flwyddyn newydd a fydd yn darparu'r un lefel o gymorth o'r lwfans cynhaliaeth addysg a'r gronfa ariannol wrth gefn i geiswyr lloches ifanc. Felly, rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â'r cynllun peilot hwn yn y flwyddyn newydd, a'i gyflwyno yn 2022, ond yn y cyfamser, yn fy nghyhoeddiad am y gronfa gymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn yr wythnos diwethaf, rwy'n falch ein bod yn dechrau ar gynllun peilot trafnidiaeth gyhoeddus am bris gostyngol tymor byr i geiswyr lloches, a dylai hynny helpu i leddfu heriau gyda chael mynediad at gyfleoedd addysg yn y tymor academaidd nesaf.