Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Wel, gwrandewch, diolch am eich sylwadau a ac rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau amrywiol a wnaethoch, ac wrth gwrs, un o'r heriau allweddol yw beth yn union yw incwm sylfaenol cyffredinol a'r hyn a olygwn wrtho. Ac fel polisi mae'n gyfle, onid yw, i ailystyried sut y mae'r wladwriaeth les wedi gweithredu, ac wedi gweithredu'n llwyddiannus iawn tan y degawdau mwy diweddar. Ond mae'n ffordd o edrych ar gyfleoedd i leddfu a dileu tlodi yn ein cymdeithas.
Mewn perthynas â dyddiad, rwy'n credu mai gan Weinidogion eraill y mae'r cyfrifoldebau portffolio ar gyfer bwrw ymlaen â hynny. Rwy'n siŵr y ceir datganiadau maes o law ac mae eich sylwadau wedi'u clywed mewn gwirionedd. Gallaf eich sicrhau nad diddordeb dros dro ydyw i Lywodraeth Cymru; mae hwn yn ymrwymiad maniffesto difrifol. Bydd yn cael ei ddatblygu. Nid wyf mewn sefyllfa i roi dyddiad i chi, ond rwy'n siŵr y cewch gyfle i ofyn yn fwy penodol i'r Gweinidogion portffolio perthnasol ynglŷn â hyn maes o law.