Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Prynhawn da, Gwnsler Cyffredinol, a diolch i Jack Sargeant am godi'r mater hwn a hefyd am barhau i chwifio'r faner dros incwm sylfaenol cyffredinol, achos rwy'n ei gefnogi'n llwyr. Mae gan Gymru gyfle gwirioneddol yma gyda'r incwm sylfaenol cyffredinol i drawsnewid bywydau go iawn. Nid yn unig y gall incwm sylfaenol cyffredinol fynd i'r afael â phroblem barhaus a chynyddol tlodi, ond gallwn weld o dreialon ym mhob cwr o'r byd y goblygiadau cadarnhaol a gafwyd i iechyd meddwl a lles a rhyddid yr unigolyn.
Rwyf am symud oddi wrth y materion sy'n ymwneud â pha bwerau sydd wedi'u datganoli a'r rhai nad ydynt wedi'u datganoli, a chanolbwyntio ar yr amserlenni sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol. Rydym wedi clywed am hyn ers ychydig fisoedd bellach, ac rwy'n meddwl tybed a allem sefydlu rhai amserlenni. Diolch yn fawr iawn.