Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Mae llawer i'w groesawu gyda threial incwm sylfaenol arfaethedig, a chyfeiriodd Jack Sargeant at fater rwyf wedi bod yn ymwybodol ohono ac wedi gofyn cwestiynau yn ei gylch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Siambr hon. Y gwir amdani yw, oni bai bod cytundeb yn cael ei daro gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, mae'n bosibl y bydd y cynllun peilot hwn yn gadael y rhai a fydd yn derbyn incwm sylfaenol yn waeth eu byd, sy'n rhywbeth nad oes yr un ohonom yn y Siambr hon am ei weld.
Wrth gwrs, un peth a allai ganiatáu inni osgoi mater yr Adran Gwaith a Phensiynau yw datganoli gweinyddu lles. A allai'r Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynglŷn â lle mae'r Llywodraeth arni ar geisio datganoli'r pwerau hyn? Ac wrth gwrs, bydd cael y pwerau hyn yng Nghymru yn fanteisiol o ran incwm sylfaenol cyffredinol, ond byddant hefyd yn caniatáu inni lunio system les sy'n llawer mwy cydymdeimladol ac yn llawer mwy cyfiawn na'r system sydd gennym ar hyn o bryd.