Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Credaf ei fod yn anghywir: nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud â datganoli pwerau; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â datganoli pwerau gyda'r adnoddau i gyd-fynd â hynny, oherwydd cafodd ein bysedd eu llosgi droeon, lle mae pethau wedi'u datganoli i ni, weithiau heb ein cefnogaeth, ond nid ydym wedi cael y cyllid sy'n angenrheidiol ar gyfer hynny wedi'i ddatganoli'n llawn i ni.
Ond rydych yn llygad eich lle fod y rhyngweithio rhwng y system fudd-daliadau a'r cysyniad o incwm sylfaenol cyffredinol yn mynd law yn llaw. A'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo yw cynllun peilot i archwilio, ac i ddangos hefyd yn fy marn i, y cyfleoedd y gellir eu creu. Credaf fod y Prif Weinidog, ar sawl achlysur, wedi dweud bod datganoli budd-daliadau lles, neu hyd yn oed rai budd-daliadau lles, yn faes y mae'n awyddus i'w archwilio, ond mae bob amser wedi rhoi'r cafeat fod yn rhaid i chi gael yr adnoddau i'w alluogi i ddigwydd ac mae'n rhaid i'r adnoddau hynny fod yn ddigonol hefyd.