Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:41, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am hynny. Ac yn amlwg, mae'r gwasanaeth prawf wedi bod drwy gyfnod eithriadol o anodd, ac unwaith eto mae'n faes lle mae gwaith ar y gweill i edrych ar y ffordd y gellid ei gydgysylltu'n well â'r gwahanol wasanaethau integredig yng Nghymru. Ac yn amlwg, mae hwn yn faes sydd, yn fy marn i, yn barod iawn ar gyfer ei ddatganoli. Mae iddo le naturiol iawn ymhlith y llu o wasanaethau datganoledig sydd oll yn cydgysylltu â'r gwasanaethau prawf.

Ond o ran yr holl feysydd eraill, a'r ganolfan breswyl i fenywod, mae'r Gweinidog eisoes wedi esbonio'r cynnydd a wnaed yno ar y modelau cyflawni. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau ar y gweill a'r gwaith hwnnw'n dal i fynd rhagddo.