Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch. Dair blynedd yn ôl, mynychais y digwyddiad a gynhaliwyd yn Wrecsam gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru i drafod y papur 'Cryfhau'r gwasanaeth prawf, meithrin hyder', lle mae'r holl wasanaethau rheoli troseddwyr yng Nghymru yn rhan o'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ers y llynedd. Byddai Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru yn ystyried opsiynau ar gyfer comisiynu gwasanaethau adsefydlu, megis ymyriadau a gwneud iawn â'r gymuned; byddent yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddynt eisoes yng Nghymru drwy eu cyfarwyddiaeth carchardai a phrawf sefydledig, ac ar bartneriaethau lleol llwyddiannus sy'n bodoli eisoes, gan adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well.
Yn eich datganiad ym mis Medi eleni, fe ddywedoch chi eich bod yn
'gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, y Swyddfa Gartref a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar y Glasbrintiau Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddwyr Benywaidd, gan gynnwys sefydlu Canolfan Breswyl i Fenywod yng Nghymru'— y cyfeiriodd y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol ati'n gynharach—
'a datblygu model cyflenwi newydd i ystad ddiogel Cymru ar gyfer cyfiawnder a phlant sy’n derbyn gofal.'
Beth felly yw'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â hyn?