Cyfrifoldeb am Ddifrod yn Sgil Llifogydd

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 3:10, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Gwnsler Cyffredinol. Gŵyr pob un ohonom fod y newid yn yr hinsawdd yn achosi digwyddiadau tywydd eithafol yn fwyfwy aml, digwyddiadau tywydd eithafol sy'n achosi difrod a dinistr enfawr—digwyddiadau tywydd eithafol fel storm Christoph, a achosodd ddinistr ar draws fy etholaeth ar ddechrau'r flwyddyn. Mae'r digwyddiadau hyn y tu hwnt i allu cynghorau lleol i baratoi ar eu cyfer, y tu hwnt i'w gallu i ddiogelu yn eu herbyn. Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno felly na ddylai fod yn rhaid i'r cynghorau dalu'r bil am lanhau ar ôl y dinistr, ac os ydych yn cytuno â mi, a wnewch chi annog eich cyd-Aelodau o'r Cabinet i sicrhau bod cyllid ar gael ar unwaith i Gyngor Sir Dinbych ar gyfer ariannu'r gwaith o ailadeiladu pont hanesyddol Llannerch, a ddinistriwyd yn stormydd 2021? Diolch.