Cyfrifoldeb am Ddifrod yn Sgil Llifogydd

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:11, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Gwn fod cyllid ychwanegol ar gael i gynghorau mewn perthynas â difrod llifogydd ac atgyweirio seilwaith. Ond rwy'n croesawu'r egwyddor y mae'n ei chrybwyll yn fawr iawn, gan mai dyma'r union egwyddor rydym wedi'i chrybwyll wrth Lywodraeth y DU mewn perthynas â thomenni glo. Mater o ddifrod hinsawdd yw hwn. Ceir cyfrifoldeb moesol, gwleidyddol a moesegol dros waddol ein pyllau glo a'r risgiau sy'n bodoli bellach, a'r gost bosibl a fydd yn wynebu llawer o'n cynghorau mewn perthynas â'r ansefydlogrwydd sy'n datblygu yn y tomenni glo hynny o ganlyniad i newid hinsawdd. Rwy'n ddiolchgar am eich sylwadau, oherwydd yn sicr, maent yn sylwadau y gallwn eu trosglwyddo i Lywodraeth y DU mewn perthynas â'u methiant i ddarparu'r cyllid y credaf fod gennym hawl iddo.