Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Gwnsler Cyffredinol, rwy’n cadeirio’r grŵp trawsbleidiol ar hil a chydraddoldeb a chyfarfu’r grŵp ddoe i drafod Rhan 4 o’r Bil, a fydd, fel y gwyddoch, yn argyhuddo teuluoedd sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr ar sail eu ffordd o fyw. Yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol hwnnw ddoe, a fynychwyd gan dros 60 o bobl, clywsom gan ystod o gynrychiolwyr o'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan gynnwys Teithio Ymlaen, lleisiau cymunedol a’r Gymdeithas Gwaith Cymdeithasol Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a mynegodd pob un ohonynt bryder a dicter ynghylch y ddeddfwriaeth arfaethedig hon. Byddai'n ei gwneud yn anoddach fyth i Sipsiwn, Roma a Theithwyr fyw mewn ffordd nomadaidd, sy'n ddigon anodd yn barod, o ystyried y diffyg safleoedd swyddogol parhaol a dros dro.
Felly, yn yr amgylchiadau hynny, Gwnsler Cyffredinol, a allwch amlinellu'r hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i ddiogelu hawliau cymunedau o'r fath, sydd o dan gryn fygythiad yn sgil y ddeddfwriaeth gyfredol hon gan Lywodraeth y DU?