Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch am eich cwestiwn atodol. Wrth gwrs, y Bil penodol hwn—mewn gwirionedd, mae'n dri darn o ddeddfwriaeth wedi'u rhoi at ei gilydd, a dyna pam ei fod mor gymhleth. Ac mae eironi yn y ffaith bod rhai eitemau ynddo sy'n sicr yn werth eu hystyried, ac yn amlwg, mae llawer o welliannau'n cael eu trafod ar hyn o bryd. Mae un gwelliant sy'n ymwneud â thrais difrifol dan ystyriaeth ar hyn o bryd y gellid ei gynnwys yn y categori hwnnw. Ond wrth gwrs, mae'r Bil yn cynnwys cryn dipyn o'r hyn y byddem yn ei alw, rwy'n creu, yn ddarpariaethau cul—sy'n groes i hawliau sifil—ac sy'n gwbl ddiangen. Y cyfyngiadau y byddai'n eu gosod ar orymdeithiau cyhoeddus, cynulliadau cyhoeddus, ar brotestiadau gan unigolion—a buom yn siarad yn gynharach, oni fuom, am bobl yn cymryd rhan mewn democratiaeth ac yn teimlo'n rhan o ddemocratiaeth—. Mae hon yn enghraifft arall o ddeddfwriaeth sy'n gwahanu pobl oddi wrth y prosesau democrataidd.
Ac wrth gwrs, yr un y mae'r Aelod yn arbennig o bryderus yn ei gylch—a gallaf ddeall hynny; gwn ei fod yn bryder a rennir o ddifrif gan Jenny Rathbone, ac yn sicr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a llawer o bobl eraill yma, rwy'n tybio—yw'r pwerau troseddoli mewn perthynas â'r hyn a elwir yn wersylloedd diawdurdod. Nid yw hyn yn rhywbeth y byddwn yn dymuno rhoi cydsyniad deddfwriaethol iddo. Credwn ei fod yn cael effaith aruthrol ar faes datganoledig; mae gennym agenda bolisi wahanol ar ymgysylltu â phobl ac ymgysylltu â'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn dymuno ei barhau. Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n peri cryn bryder. Ceir llawer o drafodaethau ynglŷn â hynny ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus i adrodd maes o law. Ac wrth gwrs, rwy'n tybio y bydd memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach maes o law pan fydd y mater hwn yn codi ac yn cael ei drafod yn y Siambr hon eto.