Deunyddiau Cladin Llosgadwy

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:12, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Rhoddwyd Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019 ar waith gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd fel ymateb uniongyrchol i adroddiad Hackitt, yn dilyn yr ymchwiliad annibynnol i drasiedi Grenfell. Mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio ysgogiadau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol i wneud gwelliannau pellach i ddiogelwch adeiladau.