Cymorth i Deuluoedd

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:02, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Gall teuluoedd wynebu ystod o broblemau cyfreithiol a allai alw am gymorth gan wahanol wasanaethau a ddarperir gan weithwyr proffesiynol preifat, sefydliadau gwladol a sefydliadau'r trydydd sector. Yn rhy aml, serch hynny, mae bylchau yn y cymorth hwnnw, yn anad dim oherwydd y gostyngiad dramatig yn argaeledd cymorth cyfreithiol yn y llysoedd teulu.