Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch. Gwnsler Cyffredinol, ym mis Medi, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau y byddai cyfiawnder teuluol yn ffocws allweddol yn eich cyfnod yn y swydd, ac fe rannoch chi lawer o bryderon dilys ynghylch nifer y plant yng Nghymru sy'n cael eu derbyn i ofal. Yn gynharach eleni, cadarnhawyd bod 7,170 o blant bellach yn derbyn gofal oddi cartref yng Nghymru, sef 1.14 y cant o'r holl blant. Mae hynny'n uwch na chyfartaledd cyfredol y DU, sef 0.72 y cant o blant. Rwy'n ymwybodol fod bwrdd cyfiawnder teuluol lleol gogledd Cymru yn un o ddwy ardal fraenaru sy'n cymryd rhan mewn rhaglen beilot i brofi a gwerthuso rhaglen ddiwygiedig ar gyfer trefniadau plant. Nod y gwaith hwn yw hyrwyddo dulliau anwrthwynebus o ddatrys problemau ac ymdrin ag achosion, a helpu i leihau ôl-groniadau. A allwch gadarnhau pa drafodaethau a gawsoch wrth ymwneud â'r gwaith hwn ac a fydd cynlluniau peilot o'r fath yn cael eu hefelychu yn unrhyw le arall yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael ag argyfwng plant sy'n derbyn gofal, lle bynnag y bônt?