Cyfrifoldeb am Ddifrod yn Sgil Llifogydd

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:08, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Cyhoeddwyd ein strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ym mis Hydref y llynedd ac mae'n nodi'r rolau a'r cyfrifoldebau. Nid yw'r rhain bob amser yn hollol syml, a dyna pam fod gennym fesur yn y strategaeth sy'n gofyn i'r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol weithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o egluro'r ddeddfwriaeth.