Cyfrifoldeb am Ddifrod yn Sgil Llifogydd

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:09, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Hoffwn ddatgan fy mod yn gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf. Fel y gwyddoch, mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi pedwar adroddiad adran 19 hyd yn hyn ar y llifogydd a gafwyd ledled y fwrdeistref sirol o ganlyniad i storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Canolbwyntiodd un o'r adroddiadau ar y llifogydd ym Mhentre, lle bu mwy o lifogydd wedi hynny wrth gwrs. A all y Cwnsler Cyffredinol nodi beth fyddai'r sefyllfa gyfreithiol pe bai pobl yn ceisio iawndal gan Cyfoeth Naturiol Cymru o gofio ei fod yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru? A fyddai gan Cyfoeth Naturiol Cymru neu Lywodraeth Cymru fel ariannwr y corff unrhyw atebolrwydd posibl? Fe gyfeirioch chi at gymhlethdodau o safbwynt atebolrwydd mewn perthynas â'r strategaeth, felly credaf y byddai eglurder ar hyn yn ddefnyddiol.