– Senedd Cymru am 3:30 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Luke Fletcher.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar 15 Tachwedd, cefais y pleser o fynychu cyfarfod cyffredinol blynyddol Baobab Bach, cwmni buddiannau cymunedol a sefydlwyd yn sir Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r nod o ddarparu bwyd o ansawdd uchel i unrhyw un sydd ei eisiau—dim profion modd, dim cwestiynau, dim stigma. Am £5, gallwch ddod i'r pantri cymunedol a chymryd cymaint ag sydd ei angen arnoch. Mae Baobab Bach yn cynnal rhwydwaith o bantrïau cymunedol, gydag 11 ar draws y sir ar hyn o bryd, ac uchelgais i sefydlu mwy, ac mae pob un ohonynt yn cael eu staffio gan wirfoddolwyr. O Bencoed i Nant-y-moel i Borthcawl, mae'r pantrïau cymunedol hyn wedi bod yn achubiaeth i'n cymunedau. Ers mis Hydref 2020, gyda'i gilydd, mae'r pantrïau cymunedol wedi dosbarthu 6,469 bag o fwyd, sy'n cyfateb i 1.45 tunnell yr wythnos. Ac o ble y daw'r bwyd hwn? O'r archfarchnadoedd: M&S, Tesco, Co-op. Maent yn cymryd y bwyd sy'n agos at ei ddyddiad defnyddio, gan ein helpu ni i gyd i arbed gwastraff bwyd; mae'n dda i'r boced, ac mae'n dda i'r blaned hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at weld i ble mae Baobab Bach yn mynd nesaf, a hoffwn ddweud wrth y tîm cyfan, John ac Alison a'r gwirfoddolwyr ymroddedig, pob lwc, a diolch.
James Evans. Mae angen i James agor ei feicroffon. A all rhywun agor meicroffon James Evans?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos nesaf, bydd ffair aeaf Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei chynnal yn Llanelwedd ar ôl dwy flynedd o absenoldeb. Wedi'i sefydlu ym 1990, mae'r ffair aeaf bellach yn un o'r atyniadau mwyaf poblogaidd ar galendr sioeau amaethyddol Prydain fel un o'r sioeau stoc gorau yn Ewrop, ac mae'n arddangos y gorau o amaethyddiaeth Cymru a Phrydain. Mae'r digwyddiad hefyd yn arddangos y bwyd a diod gorau, gan ganiatáu i bobl flasu a mwynhau'r cynnyrch Cymreig gorau. A hithau wedi'i chanslo ers 2019 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae'n wych gweld y gymdeithas yn croesawu arddangoswyr ac ymwelwyr yn ôl i faes y Sioe Frenhinol. Rwy'n siŵr y bydd y Siambr gyfan a'r Aelodau ar-lein yn ymuno â mi i ddymuno'r gorau i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer ffair aeaf lwyddiannus iawn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn, a dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.